Canolfan Mileniwm Cymru yn cyhoeddi lein-yp terfynol Llais 2022

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi lein-yp terfynol Llais 2022 yn ddiweddar, gŵyl sy'n dychwelyd i Gaerdydd mis Hydref yma gyda rhaglen cyffroes o artistiaid Cymraeg a rhyngwladol.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 14 October 2022

Mae Llais, a elwid gynt yn Ŵyl y Llais, yn ŵyl gelfyddydau rhyngwladol blynyddol sy'n rhoi llwyfan i amrywiaeth o dalentau lleisiol o bob rhan o'r byd. Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim a digwyddiadau gyda thocyn yn cael eu cynnal rhwng 26 – 30 Hydref, mae ganddo raglen amrywiol o gerddoriaeth fyw, perfformiadau, a phrofiadau rhyngweithiol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow:

Rydyn ni wedi llunio lein-yp gwych ar gyfer Llais eleni; o’r hen stejars i'r talentau newydd gorau, o Gymru a ledled y byd, o feirdd i Paraorchestra. Ac ar ben bob dim, rydyn ni’n hynod falch o groesawu'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eiconig i'r ŵyl. Mae hynny'n teimlo fel y cyfuniad cerddorol perffaith."

Ein huchafbwyntiau o raglen Llais

Cate Le Bon
Cate Le Bon, sy'n perfformio gig solo eleni

Dau o enwogion Cymru yn dychwelyd adref: John Cale a James Dean Bradfield

Mae Llais yn croesawu yn ôl un o enwogion cerddorol Cymru John Cale (Velvet Underground), ar gyfer sioe untro arbennig gyda Sinfonia Cymru a'r gwesteion arbennig House Gospel Choir, Gruff Rhys, Cate Le Bon a James Dean Bradfield (Manic Street Preachers).

Welsh Music Prize Gwobr Cerddoriaeth Gymreig

Fydd y Wobr Cerddoriaeth Gymreig yn cychwyn yr ŵyl, a fydd yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Mileniwm Cymru ar 26 Hydref. Bydd y seremoni, a fydd yn cael ei chyflwyno gan Sian Eleri o BBC Radio 1, yn cynnwys perfformiadau byw gan rai o’r enwebeion – Adwaith, Buzzard Buzzard Buzzard a Death Method. Rhagor o wybodaeth. 

Pussy Riot

Bydd y grŵp pync-roc eiconig o Rwsia Pussy Riot yn dod â’u sioe arobryn Riot Days i’r ŵyl, cyfuniad arloesol o gerddoriaeth fyw, theatr a fideo.

Death Songbook: Brett Anderson, Charles Hazlewood, Paraorchestra a Gwenno

Bydd Brett Anderson, Charles Hazlewood a Paraorchestra wedi eu hymuno a Gwenno, a enwebwyd am Wobr Mercury, am berfformiad yn cynnwys fersiynau newydd cain o ganeuon am farwolaeth, marwolaeth cariad, colled, a throsgynoldeb.

Cate Le Bon

Perfformiad cyntaf Cate Le Bon o'r halbwm newydd wych, Pompeii, yng Nghaerdydd. Yn ymuno a Cate fydd black midi, gyda chefnogaeth gan Alice Lowe.

In Pursuit of Repetitive Beats

Mae In Pursuit of Repetitive Beats yn brofiad realiti rhithwir rhyngweithiol gan y gwneuthurwr ffilm arobryn, Darren Emerson. Mae'n gwahodd cynulleidfaoedd i fynd i chwilio am rêf anghyfreithlon yn Coventry ym 1989, yn dod â hanesion yr hyrwyddwyr, y swyddogion heddlu a’r bobl oedd yn y rêf, yn fyw, ac fe wnaeth eu perthnasau a’u gwrthdaro yrru diwygiad o fewn cerddoriaeth a chymdeithas.

Welsh musical legend John Cale
Un o enwogion cerddorol Cymru John Cale

Rhaglen lawn yr ŵyl

Hefyd ar y lein-yp mae Afro Cluster, Dabs Calypso Trio, PRITT, Nia Wyn, Melin Melyn, Tri Hwr Doeth, D Double E, Abdullah Ibrahim, Midlake, black midi, Keely Forsyth, caroline a Tara Clerkin Trio, yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim. 

Rhagor o wybodaeth am yr ŵyl a'r rhaglen lawn

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event