Carys updated headshot

Carys Bradley-Roberts

Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Caerdydd Creadigol

Carys yw Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Caerdydd Creadigol. Mae'n gweithredu ein Strategaeth Gyfathrebu ac yn gweithio gyda'r tîm i rannu ac ehangu ein gwaith. Mae Carys yn canolbwyntio ar rannu ein stori greadigol gyda’n rhwydwaith a thu hwnt, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cysylltu a chefnogi cymuned greadigol Caerdydd drwy ein cyfathrebu a’n digwyddiadau.

Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, symudodd Carys i Gaerdydd yn 2017 i astudio ar yr MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC). Wrth astudio, bu’n gweithio’n rhan-amser yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cyn mynd i weithio’n llawn amser yn CBCDC fel Cynorthwyydd Rhaglennu a Marchnata Creadigol. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn rolau llawrydd a gwirfoddol gyda Gŵyl y Gelli, Bafta Cymru, Gŵyl Sŵn, BBC Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Cyn dechrau gyda ni, bu’n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event