Creadigrwydd CAER

Mae Prosiect Bryngaer Cudd Treftadaeth CAER eisoes wedi bod ynghlwm wrth greadigrwydd. Mae archwilio'r gorffennol drwy ymchwil archeolegol a hanesyddol yn cymryd dychymyg ac empathi - felly mae pobl greadigol yn hanfodol i'r archwilio hynny ac fel arfer maent yn cael eu denu ato...ac yn dwlu arno! Yn wir, mae cymunedau Caerau a Threlái yn llawn o bobl dalentog a chreadigol o bob oed: pobl sy'n teimlo'n angerddol am y 6,000 o flynyddoedd o dreftadaeth ar stepen eu drws. Mae'r rhain hefyd yn gymunedau sy'n llawn empathi, cyfeillgarwch, undod, cydweithredu a dychymyg. 

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 10 June 2021

Wrth iddynt ddathlu pen-blwydd eu prosiect yn ddeg oed, mae i weld yn amser da i fyfyrio ar faint mae pobl greadigol wedi cyfrannu at gyd-ddarganfod gorffennol Caerau a Threlái - gan hwyluso a dathlu'r darganfyddiad hwnnw bob cam o'r ffordd!

Archwilia cyd-gyfarwyddwr treftadaeth CAER, Dr David Wyatt, taith greadigol y prosiect hyd yma. Cliciwch isod i i ddefnyddio'r llyfr fflip:

CAER flipbook

 

Bydd Caerdydd Creadigol yn gweithio ar y cyd â threftadaeth CAER i gyd-gynhyrchu wal bortread ar gyfer canolfan gymunedol newydd Bryngaer Gudd Treftadaeth CAER - sydd i fod i agor Hydref 2021 a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y wal yn cynnwys portreadau o lawer o'r bobl sydd wrth wraidd stori'r prosiect a bydd artistiaid preswyl CAER yn dod â nhw'n fyw.

Byddwn hefyd yn gwahodd preswylwyr Caerau a Threlái ac aelodau o rwydwaith Caerdydd Creadigol i gymryd rhan mewn dosbarth meistr celf gyda'r cyfle i gyd-greu gwaith celf ar gyfer y ganolfan dreftadaeth. Rhagor o wybodaeth am y dosbarth meistr a sut gallwch gymryd rhan.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event