Creu Caerdydd

Profile picture for user Lisa Matthews

Postiwyd gan: Lisa Matthews

Dyddiad: 7 March 2017

Nod canolog Caerdydd Creadigol yw i'n dinas fod yn brifddinas o greadigrwydd. Rydym yn sicr mai cydweithio a manteisio ar ein cryfderau cyfunol yw'r ffordd ymlaen.

Yn ein digwyddiad Caerdydd: Prifddinas Greadigol ym mis Rhagfyr, clywsom sut meddyliodd Sheffield am '10 peth’ a oedd yn ganolbwynt i’r hanesion y mae eu dinas yn eu hadrodd amdani ei hun.

Gwnaethant hyn drwy ymgynghori â phobl greadigol yn y ddinas, gan wirio rhagdybiaethau wrth iddynt fynd yn eu blaenau. Yn aml heriodd yr ymchwil rai tybiaethau cyffredin a datgelu rhai ffeithiau llai hysbys; nid oedd y celfyddydau gweledol mor gryf â’r disgwyl, ond roedd cwrw’n beth mawr gyda nhw (hynny, yn ogystal â bod â nifer enfawr o stiwdios recordio).  Arweiniodd hyn at newid polisi pan ddarganfuwyd mai tua 25% yn unig o’r holl gwrw yma a oedd yn gadael Sheffield oherwydd nad oes ffatri botelu. Mae hynny'n rhywbeth maent bellach yn mynd i’r afael ag ef. Arweiniodd hyn hefyd at fentrau fel Our Favourite Places a ddechreuwyd gan bobl greadigol leol fel ‘llythyr caru i’r ddinas’ a nawr, mewn partneriaeth ehangach, mae’n ganllaw i ymwelwyr gael profiad o Sheffield fel person lleol.   

Gwnaeth hyn inni feddwl beth fyddai ‘10 peth’ Caerdydd? A allem gael sgwrs fel dinas am y cysyniad hwn, dan arweiniad pobl greadigol? A allem nodi ychydig o syniadau i’w datblygu i’n helpu’n well i adrodd hanesion Caerdydd? 

Yn ein gweithdy, Creu Caerdydd, ar 17 Mawrth, rydym eisiau dechrau ar y gwaith o gasglu’r syniadau hyn.  Rhai cwestiwn fel man cychwyn inni... 

  • Pan fyddwch yma ac acw mewn cyfarfodydd ac mewn cynadleddau ac yn dweud eich bod chi’n dod o Gaerdydd – beth yw’r hanesion yr hoffech chi eu hadrodd pan fydd pobl yn gofyn ichi sut le yw’r ddinas?
  • Pa enghreifftiau sydd gennym eisoes? Mae mentrau creadigol yn cynnwys Ni yw CaerdyddDwi’n dwlu ar Gaerdydd a Mynd ar Goll yng Nghaerdydd neu adnoddau fel Buzz.
  • A oes unrhyw fythau y dylem eu chwalu? Neu bethau rydym yn credu eu bod yn wir ond rydym eisiau eu gwirio unwaith ac am byth? 
  • A oes unrhyw ffeithiau sy’n mynegi nodwedd fwy ar y ddinas yn dwt? e.e. ‘Gan Gaerdydd y mae'r ganran uchaf o fyfyrwyr...' - yn aml dydyn ni ddim yn hyrwyddo Caerdydd fel dinas dysg gyda thair prifysgol a choleg cerdd.
  • A oes pethau rydym yn eu gwneud nad ydym yn canu eu clodydd yn ddigon uchel? 
  • Beth am weithgarwch yng ngwahanol wardiau etholiadol Caerdydd? A oes hanesion yn digwydd mewn rhai meysydd nad ydym yn sylwi arnyn nhw?
  • Sut rydym yn gweithio ar y cyd â’r cyfryngau i rannu’r straeon hyn?
  • Sut rydym yn trefnu’r ddawn greadigol sydd gennym yma i wneud hyn i gyd?

Cam cyntaf bach yw’r gweithdy cyntaf hwn ac rydym yn gwybod na fyddwn yn gallu gwneud popeth ar unwaith.

Ond rydym ni wrth ein boddau y bydd gennym ystafell lawn sy'n cynnwys sefydliadau celfyddydol, busnesau creadigol a gweithwyr llawrydd, academyddion a chydweithwyr o Gyngor Caerdydd sydd i gyd yn awyddus i gyfrannu. Yn ddiweddar mae Cyngor Caerdydd wedi cynhyrchu ei adroddiad ei hun: Caerdydd Dinas Fyw sydd â rhai ffeithiau a ffigurau diddorol am y ddinas i roi darlun o Gaerdydd fel y mae nawr.

Bydd digon o gyfle i gymryd rhan wrth i weithdai Caerdydd Creadigol fynd yn eu blaenau, byddwn ni’n rhannu’r holl wybodaeth yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event