Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn darparu adloniant hanner amser yn y gêm Ffrainc v Cymru

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) o Gaerdydd yn rhoi adloniant i dorf o 80,000 o bobl yn Stade de France ddydd Sadwrn 18 Mawrth, pan fydd Cymru yn herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth Guinness Rygbi’r Chwe Gwlad.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 March 2023

Image of NDC Wales dancers

Bydd CDCCymru yn perfformio hanner amser yn y stadiwm fel rhan o flwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023 Llywodraeth Cymru.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu dawns sy’n archwilio’r hyn mae’n ei olygu i fyw yng Nghymru a’r byd ar hyn o bryd. Byddan nhw'n perfformio rhan fach o ‘Say Something’, gwaith dawns diweddaraf y Cwmni gan y coreograffwyr Sarah Golding ac Yukiko Masui (SAY), i fît bocsio byw gan Dean Yhnell (Beat Technique) o Dredegar.

Dywedodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru:

Mae hwn yn gyfle gwych i rannu ein hoffter o ddawns ac i gyfleu holl egni Cymru gyfoes gyda thorf enfawr ym Mharis. Daethom ar draws Dean Yhnell ym Mhenrhys yn Rhondda Cynon Taf, lle mae’n un o brif artistiaid y prosiect cydweithredol Above & Beyond yr ydym yn ei hwyluso.

P’un ai yw ym Mhenrhys neu Baris, rydym eisiau rhannu gweledigaeth o Gymru fel cenedl sy’n ddiwylliannol gysylltiedig, sy’n awyddus i roi adloniant i bobl ac i ysbrydoli.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

 

Rwyf wrth fy modd bod Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ein cynorthwyo i lansio’r flwyddyn Cymru yn Ffrainc, fydd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad ar draws y celfyddydau, addysg, chwaraeon a busnes.

Mae CDCCymru yn arddangos Cymru gyfoes, amrywiol a chelfyddydol wych i’r byd. 

Hoffwn ddiolch i’n partneriaid Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru a Ffrainc sydd wedi gweithio gyda ni i gynorthwyo’r gweithgaredd hwn.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event