Cysylltu’r Dotiau – Deall y gwerth sy’n cael ei greu gan Rwydweithiau Creadigol

Mae rhwydweithiau creadigol yn ffenomenon cymharol ddiweddar sy'n datblygu. Hyd yma, nid yw rhwydweithiau creadigol wedi cael llawer o sylw o safbwynt polisi nac academaidd. Pwrpas y gwaith ymchwil yma yw deall y rhwydweithiau hyn yn well, a'u rôl wrth gefnogi'r diwydiannau creadigol.

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 September 2021

Map of uK creative networks

Mae twf y diwydiannau creadigol wedi effeithio ar y rhan fwyaf o drefi, dinasoedd a rhanbarthau yn y DU, gan gynnig manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar sail lle. Mae rhwydweithiau creadigol yn creu gwerth sy'n gwella datblygiad y diwydiannau creadigol mewn lleoedd ym mhob cwr o’r DU. Er bod y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth gan lunwyr polisïau yn cynyddu, mae rhwydweithiau creadigol yn dal ar yr ymylon o ran arian cyhoeddus yn y diwydiannau creadigol. Mae'r adroddiad hwn yn darparu tystiolaeth bod rhwydweithiau creadigol o bwysigrwydd sylweddol i randdeiliaid academaidd, polisi a’r diwydiant, ac yn dadlau dros roi rôl fwy canolog iddynt mewn polisi cyhoeddus.

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod gwerth rhwydweithiau creadigol yn eang, a’u bod yn groesffordd ganolog allweddol i amrywiaeth o randdeiliaid, a bod effaith hynny i’w theimlo ymhell y tu hwnt i'r diwydiannau creadigol lleol. Er eu cyfraniad, mae rhwydweithiau creadigol yn wynebu nifer o heriau allweddol. Mae'r heriau hyn yn cynnwys diffyg adnoddau (amser ac arian), gyda'r mwyafrif yn dweud mai ansicrwydd o ran cyllid a llwyth gwaith yw eu prif rwystrau. Mae’r heriau eraill yn cynnwys diffyg dealltwriaeth allanol o rôl, gwerth a statws rhwydweithiau creadigol yn yr ecosystem ehangach.

 

Value network diagram

 

Roeddem wedi defnyddio’r dull helics pedrwbl i ystyried grwpiau o gyfranogwyr ac i ganfod y berthynas a'r llif gwerth rhwng grwpiau. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddod o hyd i’r cyfranogwyr niferus sy'n ymwneud â rhwydweithiau creadigol gan ein galluogi ni, am y tro cyntaf, i asesu llifau gwerth a chyfraniad rhwydweithiau creadigol ymysg yr holl randdeiliaid. Datgelodd hyn led a dyfnder y llifau gwerth, ac roedd yn arwydd o gyfraniad cyffredinol rhwydweithiau creadigol at ecosystemau (gan gynnwys yr economi ehangach) y lleoedd maen nhw’n eu gwasanaethu. Nid yw pob rhanddeiliad yn eu gwerthfawrogi na’u deall yn llawn; ac mae’r amgylchedd economaidd presennol yn ychwanegu at hynny. Rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhellion yn helpu i newid hynny.

Cliciwch isod i ddarllen yr adroddiad llawn.

Cynhaliwyd yr astudiaeth hon ar y cyd ag Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd, a gyda Caerdydd Creadigol.

Awduron:

Dr. Marlen Komorowski Dadansoddwr Effaith - Clwstwr, yr Uned Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Uwch Ymchwilydd / Athro Gwadd yn imec-SMIT-VUB (Vrije Universiteit Brussel)

Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Justin Lewis, Athro Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol, Prifysgol Caerdydd

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event