Dan y chwyddwydr: Radar Mag

Rydym wrth ein bodd yn dathlu ac arddangos y bobl greadigol wych sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a'r rhanbarth ehangach. 

Ar gyfer ein cyfweliad ‘Dan y chwyddwydr’, rydym yn siarad â'r tîm y tu ôl i'r cylchgrawn print annibynnol, Radar Mag. Dysgwch ragor am Radar a'u gwaith. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 8 February 2024

Radar mag interview

Dywedwch fwy wrthym am eich tîm

Mae ein tîm bach yn angerddol am Gaerdydd a’i chreadigrwydd. 

Mae gan bob un ohonom swyddi sy'n ein galluogi i fynegi ein creadigrwydd, boed hynny trwy ddylunio, ysgrifennu neu farchnata. Trwy Radar, rydym yn gallu cymryd ein lefel mynegiant creadigol ymhellach a churadu cynnwys yn benodol ar gyfer ein diddordebau. Rydym yn gobeithio y bydd pobl ifanc a phobl greadigol yn ein dinas yn barod i dderbyn hyn.

Beth yw Radar Mag?

Mae Radar yn gylchgrawn print annibynnol sy'n canolbwyntio'n benodol ar bopeth sy'n digwydd yng Nghaerdydd megis cerddoriaeth, celf, ffordd o fyw a diwylliant. 

Cefnogir ein cylchgrawn print gan blatfform ar-lein sy'n cyflwyno cynnwys tebyg a'n cyfres o ddigwyddiadau sy'n arddangos y gorau o gerddoriaeth fyw newydd o'n dinas.

Radar mag close up

Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni?

Rydym yn adrodd straeon o gefndir creadigol a cherddoriaeth Caerdydd ac eleni rydym wedi ymestyn hynny ymhellach, gan gynnwys gweithiau o bob rhan o Dde Cymru.

Rydym yn gobeithio tyfu platfform sy'n bodoli ar draws pob sianel cyfryngol, print a digidol, yn ogystal ag mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb, gan roi cyfle i bobl greadigol a cherddorion talentog rannu eu crefft a'u profiad. Trwy gydol ein cynlluniau ar gyfer 2024 a thu hwnt, rydym yn edrych ar y gwahanol fathau o gyfryngau y gallwn eu defnyddio i adrodd straeon o'r fath ac ehangu pobl greadigol a cherddorion Cymru ymhellach.

Byddem wrth ein bodd i Radar chwarae rhan wrth barhau i feithrin hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethocach ar gyfer Caerdydd a De Cymru, fel ei fod yn cael ei ystyried fel canolbwynt ar gyfer creadigrwydd a'r celfyddydau gan bobl ledled y wlad.

Dywedwch wrthym am gynlluniau Radar ar gyfer y dyfodol...

Yn 2024, rydym yn bwriadu datblygu ein platfform ar-lein ymhellach trwy gynnwys fideo, darparu darllediadau ar gyfer gwyliau cerddoriaeth mwyaf Cymru a chyhoeddi dau brint llawn dop o Radar. Mae'n mynd i fod yn flwyddyn wych!

Radar mag networking event

Sut mae pobl yn cael rhagor o wybodaeth?

Mae ein tudalen Instagram yn gartref/hafan i bopeth Radar. Dilynwch ni ar @radarmagcardiff i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein holl gynnwys, cylchgronau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi ac i gael tocynnau i'n digwyddiadau sydd i ddod!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event