Datblygu artistiaid a haneswyr y dyfodol yng Nghaerdydd

Yn hydref 2022, ymgysylltodd prosiect Roman ‘Diff Fusion’ CAER â grŵp o bobl ifanc o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan drwy gyfres o weithgareddau creadigol wythnosol yn archwilio hanes hynod ddiddorol Caerdydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 14 February 2023

Nod Roman 'Diff Fusion, a ddaeth â thri o brosiectau Prifysgol Caerdydd (CAER Heritage, Porth Cymunedol a Caerdydd Creadigol), ynghyd â'r sefydliad datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) ac Amgueddfa Cymru at ei gilydd, oedd meithrin cyfeillgarwch newydd a fforwm ieuenctid rhyng-gymunedol parhaus, yn ogystal ag ysbrydoli'r bobl ifanc yn eu hastudiaethau.

Dywedodd Dr David Wyatt, Darllenydd mewn Cenhadaeth Ddinesig a Gweithredu Cymunedol yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, ac un o arweinwyr y prosiect:

Creodd y prosiect hwn bartneriaeth rhwng dwy ysgol wych ry'n ni wedi gweithio gyda nhw o'r blaen - roedd yn ymwneud â dod â chymunedau ynghyd o bob cwr o orllewin Caerdydd i archwilio treftadaeth gyffredin. Mae'r bobl ifanc mor greadigol ac mae wedi bod yn wych eu gweld yn cydweithio ac yn datblygu cyfeillgarwch dros yr wythnosau. Ry’n ni’n gobeithio bod y prosiect wedi agor eu llygaid i'r hanes a'r cyfleoedd i ddysgu sydd i'w gweld o'n cwmpas ym mhob man. Ry’n ni’n gobeithio hefyd y bydd yn arwain at fforwm ieuenctid ar draws y cymunedau hyn ac at bartneriaeth weithio barhaus rhwng gweithwyr ieuenctid, ysgolion a'r Brifysgol i gefnogi hyn.

An image of art created by the puplis

Gwyliwch y crynodeb fideo hwn o'r prosiect:

Cymerodd y bobl ifanc 12 a 13 oed ran mewn amrywiaeth o sesiynau creadigol ac ymweliadau hanesyddol, gan gynnwys taith i Fila Rufeinig 2000 oed Trelái, cyd-greu gosodiadau celf dros dro yng Nghastell Caerdydd, gweithgareddau archeolegol arbrofol fel gwneud colur Rhufeinig yng Nghanolfan CAER a dylunio gemau fideo treftadaeth ym Mhafiliwn Grange.

Trwy gydol y prosiect buont yn gweithio’n agos gyda Dr Dave Wyatt, Prifysgol Caerdydd, Artist Preswyl CAER Nic Parsons, a’r gweithwyr ieuenctid Nirushan a Shoruk o Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, ynghyd â Danielle o Dîm Ieuenctid ACE.  Daeth hyn i ben gyda pherfformiad Pyped Creadigol a arweiniwyd gan y disgyblion, yn arddangos yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu drwy gydol y prosiect, a darn o gelf ar raddfa fawr gyda’r artist o Gaerdydd, Geraint Ross Evans.

Dywedodd Geraint, a fu’n gweithio gyda’r bobl ifanc drwy gydol Tachwedd a Rhagfyr:

Fy rhan i yn y prosiect oedd gweithio gyda phobl ifanc a'u cael i ragweld eu profiad ar y prosiect 'Diff Fusion. Arweiniodd hyn at waith celf terfynol uchelgeisiol, sef y darlun panoramig enfawr hwn sy’n debyg i sgrôl, sy’n mynd â chi o Ganolfan CAER i fyny i’r Fryngaer, yn ôl drwy amser, lle maent yn digwydd dod ar draws pentref Rhufeinig a darnau eraill o’r hanes, ac yna yn y pen draw yn ôl i'r presennol. Yr agwedd fwyaf pleserus i mi oedd gweld y syniadau hyn yn dod yn fyw mewn ffordd weledol, a gweld y myfyrwyr yn gwneud y darluniau hyn, gan gymryd sgerbwd o syniad, yn ei hanfod, a’i droi'n rhywbeth sydd â gwir ystyr ac effaith.

An image of the artwork created by students on the Roman 'Diff Fusion project

Ro’n i’n hapus i fod yn rhan o’r prosiect ac fe wnes i fwynhau’n fawr. Fe wnes i fwynhau gweithio gyda disgyblion o orllewin Caerdydd. Fe wnes i fwynhau ein taith i Brifysgol Caerdydd yn fawr ac ro’n i’n teimlo’n ffodus iawn i gael gweld rhai o'r arteffactau hanesyddol a oedd yno. Roedd hynny'n ddiddorol iawn." Ychwanegodd Aaron, o Ysgol Uwchradd Gymunedol y Gorllewin, “Mae wedi bod yn llawer o hwyl, mae’r holl weithgareddau wedi bod yn hwyl, rwy’n hoffi’r gweithgareddau darlunio, yn enwedig Pokémon canoloesol. Ry’n ni hefyd wedi gwneud animeiddio stop-symud, ac fe wnes i fwynhau gwneud pypedau a gwneud sioe i ddweud wrth bobl am ein taith drwy amser."

Dywedodd Nic Parsons, Artist Treftadaeth CAER a Swyddog Datblygu Cymunedol ACE Arts:

Fe wnes i wir fwynhau gweithio fel artist ar y prosiect. Llwyddodd i gysylltu grŵp gwych o feddylwyr creadigol o bob oed, gan gynnwys disgyblion, haneswyr ac artistiaid, ynghyd â’r gweithwyr ieuenctid anhygoel o Bafiliwn Grange, staff ACE a staff cymorth o’r ddwy ysgol uwchradd, a ddaeth â chymaint o egni cadarnhaol drwyddi draw!

A picture of portraits drawn by the pupils

Daeth y prosiect i ben gydag arddangosfa a chyflwyniad yng Nghanolfan Dreftadaeth CAER ar 14 Rhagfyr 2022.

Dysgwch fwy am CAER Heritagea Phafiliwn Grangeneu dysgwch fwy am bartneriaeth Caerdydd Creadigol gyda CAER Heritage yn 2021.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event