Dewch i gwrdd â'n Cynhyrchwyr

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda dwy fyfyrwraig eleni. Mae Afifah a Kayla yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi’u recriwtio i weithio gyda Chaerdydd Creadigol i gefnogi a datblygu ein gweithgarwch ymgysylltu.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 March 2024

Student producers

Gan weithio ar sail hyblyg trwy gynllun 'Jobshop' Prifysgol Caerdydd, mae’r cynhyrchwyr yn ein helpu i gynllunio, trefnu a chyflwyno ein gweithgaredd ymgysylltu.

Darganfod mwy am gynhyrchwyr eleni:

Afifah Aamer 

Image of Afifah

Ar hyn o bryd mae Afifah Aamer yn gynhyrchydd gyda Chaerdydd Creadigol, gan gyfuno ei hastudiaethau peirianneg fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd â diddordeb yn y maes creadigol. Yn wreiddiol o Fryste ac yn astudio yng Nghaerdydd, mae'n mwynhau archwilio'r byd celf fywiog yn y DU. Y tu hwnt i weithgareddau academaidd, mae Afifah yn cynnal y podlediad "Metamorphosis," gan roi mewnwelediad i wahanol agweddau ar fywyd myfyriwr. Mae ei gwaith celf wedi cael sylw mewn arddangosfa ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, sy'n arddangos ei darluniau. Ei nod yw hybu effaith Caerdydd Creadigol drwy annog cyd-fyfyrwyr i gymryd rhan yn y celfyddydau.

Kayla Worrell–Morrison

Kayla headshot

Mae Kayla yn fyfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf, sy'n angerddol am bopeth cynhyrchu, teledu a radio. Mae ei diddordebau yn cynnwys dylunio graffeg, darllen a Harry Potter!

Mae gan Kayla ddiddordeb mewn podledu ac ysgrifennu a hoffai fod yn gyflwynydd a newyddiadurwr ar ôl graddio.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event