Digwyddiadau Wythnos Lleoliadau Annibynnol yng Nghymru

Mae Wythnos Lleoliadau Annibynnol (IVW) yn ddigwyddiad sy’n dathlu amrywiaeth o leoliadau cerddoriaeth a chelfyddydol annibynnol ledled y DU, a gynhelir rhwng 29 Ionawr a 4 Chwefror. Yn ystod yr wythnos hon, bydd lleoliadau ar hyd a lled y DU yn partneru â phobl greadigol, hyrwyddwyr, a’r cyfryngau i roi rhaglen o ddigwyddiadau un-tro at ei gilydd sy’n amlygu’r gwaith y mae’r lleoliadau’n ei wneud drwy gydol y flwyddyn. Dewch i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau IVW eraill yng Nghymru.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 29 January 2024

Nod yr wythnos yw dod â chymunedau lleol ynghyd i ddathlu’r lleoliadau annibynnol sydd ar garreg eu drws, a dod ag wynebau newydd i leoliadau nad ydynt erioed wedi ymweld â nhw o'r blaen. Mae’r lleoliadau hyn yn rhoi lle i artistiaid rannu eu crefft, yn ogystal â chyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod talent newydd a rhai sydd ar y gweill.

Mae Wythnos Lleoliadau Annibynnol yn ymweld â Chymru am 6 diwrnod y mis nesaf ac mae 19 o sioeau ar y gweill. Cynhelir y sioeau mewn 6 lleoliad ledled Cymru ac maent yn arddangos ystod eang o dalent o grŵp amrywiol o bobl greadigol. Mae’r lleoliadau Cymreig sy’n cael eu dathlu eleni yn cynnwys:

  • Caerdydd – The Gate, Tiny Rebel a'r Eglwys Norwyaidd
  • Abertawe - Tŷ Tawe
  • Merthyr Tudful – Y Scala
  • Caerfyrddin - CWRW
  • Sir Benfro – The Grain
  • Wrecsam – The Rockin’ Chair

Yn partneru â #IVW24 mae Cymru Greadigol, BBC Radio 6, BBC Music Introducing, a llawer o sefydliadau eraill diwylliannol ledled y DU.

Listing in IVW24

IVW yng Nghaerdydd

Yn dod i Gaerdydd, mae #IVW24 llysgennad Cymru L E M F R E C K, yn perfformio yn The Gate ar 3 Chwefror am 7:30yp.

Cafodd L E M F R E C K ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Breakthrough’ yng ngwobrau BAFTA Cymru yn 2022 am ei gyfres deledu am gerddoriaeth Gymraeg o darddiad du ac fe’i henwyd yn ‘Artist 2023’ gan BBC Music’s Introducing.

Rhagor o wybodaeth am y sioe arbennig hon yng Nghaerdydd yn The Gate.

Cyn perfformiad L E M F R E C K, mae’r gymuned Lleoliad Annibynnol yn cynnal Sesiwn Soundcheck Mae Sesiynau Soundcheck yn cynnig cyfle i bobl ifanc (14+ oed) ddod i leoliad cyn i’r drysau agor, i wylio’r artistiaid yn cynnal sesiwn gwirio sain ac yna’r cyfle am sesiwn holi-ac-ateb gyda nhw ynghyd â rhai o’r criw a thîm y lleoliad. Rhagor o wybodaeth.

Darllenwch fwy am yr holl ddigwyddiadau sydd i ddod ar wefan Wythnos Lleoliadau Annibynnol.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event