Drama newydd am Betty Campbell gan awdur ifanc o Gaerdydd

Bydd cannoedd o blant dros Gymru yn cael cyfle i ddysgu mwy am Betty Campbell – y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru a hyrwyddwr amlddiwylliant – diolch i ddrama newydd fydd yn dechrau teithio yr wythnos yma.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 8 March 2022

Bydd y ddrama un person, o’r enw Betty Campbell – Darganfod Trebiwt, yn mynd â’r plant ar siwrne’ hanesyddol trwy Trebiwt, Caerdydd, o gyfnod adeiladu’r dociau trwy ddau ryfel byd hyd at heddiw – a’r oll trwy lygaid Betty.

Bydd y ddrama, yn y Gymraeg, yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf yn Ysgol Hamadryad ym Mae Caerdydd, cyn dechrau taith ysgolion ledled Cymru.  Mae cynlluniau ar y gweill i lansio fersiwn Saesneg o’r ddrama yn fuan.  

Wedi’i hysgrifennu gan Nia Morais, awdur ifanc o Gaerdydd, mae’r ddrama yn cael ei llwyfannu gan gwmni theatr i blant Mewn Cymeriad/In Character, ar ôl i’r cwmni gael ei ysbrydoli gan ymgyrch ‘Prosiect Merched Mawreddog’ – ymgyrch welodd gerflun o Betty Campbell yn cael ei ddadorchuddio yn Sgwâr Ganolog Caerdydd haf diwetha’.  

Kimberley Abodunrin, sy’n wreiddiol o Sir Benfro ac sy’ bellach yn byw yn Birmingham ers symud i’r ddinas i astudio drama, fydd yn chwarae rhan Betty Campbell.  Yr actores a’r gyfarwyddwraig o Abertawe, Carli De’La Hughes, sy’n cyfarwyddo.

Rehearsal scene - photo credit Keith Murrell

Meddai Kimberley Abodunrin: Dw i’n cyffrous ac yn teimlo balchder mawr i fod yn chwarae rhan menyw mor ysbrydoledig â Betty Campbell, ac i allu rhannu hanes cyfoethog Trebiwt gyda phlant dros Gymru gyfan.

Mae Mewn Cymeriad wedi gweithio’n agos â theulu Betty Campbell, sy’ wedi cefnogi’r prosiect o’r cychwyn. Mae’r ddrama a’r cynhyrchiad wedi’u datblygu mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth BACA - Butetown Arts and Culture Association.

Bydd modd i ysgolion dros Gymru archebu’r sioe trwy wefan Mewn Cymeriad – www.mewncymeriad.cymru

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event