Ein huchafbwyntiau cerddorol 2023

Mae rhywbeth arbennig yn digwydd yng Nghaerdydd yn yr hydref. Mae bandiau newydd ac artistiaid sefydledig o Gaerdydd, Cymru a thu hwnt yn dod i'r ddinas i berfformio yn ein lleoliadau cerddorol gwych. O Glwb Ifor Bach i Tiny Rebel i Ganolfan Mileniwm Cymru, mae’r ddinas yn trawsnewid ar gyfer tri digwyddiad cerddorol allweddol: y Wobr Gerddoriaeth Gymreig flynyddol, Gŵyl Llais Canolfan y Mileniwm a Gŵyl Sŵn.

Cafodd Tîm Caerdydd Creadigol y pleser o fynychu’r digwyddiadau hyn eleni, yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau cerddorol gwych eraill yn y ddinas yn 2023. Mae Jess a Carys o Gaerdydd Creadigol yn sôn am eu uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 21 December 2023

Panic Shack
Llun gan Polly Thomas

Uchafbwynt Jess: Gŵyl Sŵn 

Yn y trac ‘Sorted Out For Es and Whizz’, mae Jarvis Cocker yn disgrifio’i hun fel ‘Somewhere, somewhere in a field, in Hampshire’. Tra ei fod yn cyfeirio’n benodol at 'rave', mae rhywbeth am y llinell hon bob amser yn fy ngwneud i mi feddwl am yr ymdeimlad o anhysbysrwydd daearyddol a all dreiddio trwy ‘brofiadau gŵyl’ traddodiadol. Lle rydych chi i gyd yn mynd i gae ar hap rhywle yng nghefn gwlad, cymryd rhan mewn parti di-stop am dri diwrnod a phan fyddwch chi'n cyrraedd adref, does dim dealltwriaeth o'r gymuned leol nac nodweddion unigryw'r amgylchedd. Heblaw am stop brys yn y garej ar gyfer Lucozade Sport a bag o Wotsits ar y ffordd adref, mae'n debyg nad ydych chi wedi gwario ceiniog mewn busnes lleol chwaith.

Mae Sŵn yn wahanol. Nid ‘gŵyl yn y ddinas’ yn unig fohoni – mae Caerdydd yn rhedeg trwy graidd ei hunaniaeth.

Dwi wedi bod yn ffan o Sŵn ers fersiynau cynnar yr ŵyl yn y noughties hwyr, ac mae wedi bod yn anhygoel ei weld yn tyfu o nerth i nerth dros y blynyddoedd, gan gadarnhau ei enw da fel un o wyliau mwyaf cyffrous y DU ar gyfer cerddoriaeth newydd. Un peth y mae Sŵn yn ei wneud yn wych yw tynnu sylw at amrywiaeth diwylliannol Caerdydd, gan gydleoli’n arbenigol brofiad gŵyl sy’n teimlo’n agos atoch ac yn gydlynol, er gwaethaf daearyddiaeth eang ei lleoliadau ar draws y ddinas. Ble arall ond Sŵn fyddech chi’n mynychu sioeau mewn hen farchnad, lleoliad priodas o safon uchel, teras to, caffi tanddaearol a thafarn cerddoriaeth metel trwm, i gyd mewn un prynhawn?

Ar ôl degawd o fyw a gweithio yn Llundain, roedd Sŵn eleni hefyd wedi gwneud i mi deimlo'n frwdfrydig am botensial enfawr yr economi gerddoriaeth yng Nghaerdydd, sef ‘amrywiaeth grynodedig’ ein dinas o leoliadau cerddoriaeth a pherfformio, a'u cydfodolaeth â busnesau annibynnol lleol. Fe fentra i nad oes unman arall yn Ewrop sydd â stadiwm o faint y Principality yn bodoli tafliad carreg i ffwrdd o sîn gerddoriaeth llawr gwlad y ddinas. Mae cyfle mor gyffrous yn dod i’r amlwg i uno’r negeseuon yma i mewn i stori gymhellol am le yng Nghaerdydd: rhywle – fel y dywedodd Chris Martin yn ystod gig Coldplay yr Haf hwn – gall bandiau ddechrau chwarae gigs cymharol fach ar Stryd Womanby, dim ond i ail-ymweld, mewn blynyddoedd i ddod ar gyfer gig yn y stadiwm, a'r cyfan yn y ddinas sy'n gartref i'r siop recordiau hynaf yn y byd.

Gyda blwyddyn llawn arall o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw ar raddfa fawr yn dod i’r amlwg yn 2024, mae’n bwysicach nag erioed i bob un ohonom yn y sector feddwl yn ofalus ac yn strategol am sut yr ydym yn manteisio ar y cyfle hwn wrth inni edrych ar sut y byddwn yn gwireddu ein huchelgais i ddod yn 'ddinas gerddoriaeth' wirioneddol ffyniannus ac annibynnol yn y dyfodol.

Mae Sŵn yn rhan mor annatod o’r weledigaeth hon, gan helpu i sefydlu Caerdydd fel cyrchfan ar gyfer cerddoriaeth newydd sy’n deilwng o gyffro sy’n adrodd stori gydgysylltiedig am 'le'.

Uchafbwyntiau Carys: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, Panic Shack a Melin Melyn

Roeddwn i wrth fy modd gyda’r Gwobr Cerddoriaeth Gymreig y llynedd ac roeddwn i mor gyffrous i fynychu eto eleni. Er ei bod yn wobr, rwy’n ei gweld yn fwy fel arddangosfa o’r holl artistiaid gwych, newydd a sefydledig, sy’n creu cerddoriaeth newydd yng Nghymru. Ar ôl y llynedd a digwyddiad eleni, gadawais gyda 'playlist' hollol newydd, ac yn llawn cyffro am ddyfodol y diwydiant yng Nghymru.

Roedd y rhestr fer mor gryf ac eclectig eleni. Llongyfarchiadau enfawr i Rogue Jones am gipio’r wobr eleni!

Roedd y perfformiadau byw yn eithriadol. Mace The Great, Minas a Cerys Hafana oedd fy uchafbwyntiau personol i’r noson. Cefais fy swyno’n llwyr gan bob perfformiad, mewn tair ffordd hollol wahanol.

Cefais y pleser hefyd o sgwrsio gyda CVC cyn y gwobrau, band sydd wedi mynd o nerth i nerth ers i mi eu gweld gyntaf yn Gwdihŵ dros bum mlynedd yn ôl. Cawsant eu henwebu am eu halbwm cyntaf ‘Get Real’:

“Roedd yn brosiect cyfnod clo, fe benderfynon ni ddod at ein gilydd a chreu rhywbeth tra bod y byd yn stond, ac fe wnaethon ni greu ‘Get Real’”, medden nhw wrtha i.

Buom yn siarad am eu halbwm, a thaith UDA (roeddent yn gadael am yr UDA'r bore ar ôl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig). Gofynnais iddynt hefyd pa effaith a gafodd byw yn Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar y band:

Roeddem yn rhan o’r Forte Project yn 2018, a gafodd effaith aruthrol arnom ni, gan roi’r cyfeiriad yr oedd ei angen arnom, a chyngor ynghylch ariannu a chyfleoedd gigio. Rydym yn dal mor ddiolchgar i’r rheini am ein cefnogi. Holl leoliadau llawr gwlad y ddinas hefyd, roedden nhw wedi rhoi llwyfan i ni fynd allan i gigio, llefydd fel Gwdihŵ - RIP. Heb y lleoliadau hynny, ni fyddai cerddoriaeth yn y ddinas yr un peth. Maen nhw'n rhoi llwyfan i artistiaid wneud yr hyn maen nhw'n ei garu. Mae’n gymuned mor glos a chefnogol yng Nghaerdydd.

Dydw i ddim wedi gweld CVC yn fyw ers rhai blynyddoedd, felly roeddwn wrth fy modd pan ddywedon nhw wrthyf eu bod ar fin gigio yng Nghaerdydd. Ar 13 Rhagfyr, buont yn perfformio yn Tramshed, mewn gig a werthodd bob tocyn, a’r “gig fwyaf (eu) gyrfa hyd yn hyn”.

Darllenwch fwy am y CVC.

Melin Melyn at Creative Cardiff's festive party
Llun gan Michael Hall

Fedra’ i chwaith ddim siarad am gerddoriaeth yng Nghaerdydd heb sôn am Panic Shack a Melin Melyn a berfformiodd yn ein partïon haf a Nadolig yn 2023. Mi oedd y ddau fand yn hollol wych, a fy uchafbwyntiau personol oedd Trac newydd Melin Melyn 'I Paint Dogs' a 'The Ick' gan Panic Shack. Dwi methu aros i weld beth mae’r ddau fand yma’n gwneud yn 2024!

Gwrandewch ar drac newydd Melin Melyn.

'Playlist' Caerdydd Creadigol

Mae Jess a Carys wedi creu rhestr 'playlist' o'u holl hoff fandiau o Gaerdydd, gwrandewch.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event