Fy lleoliad gyda Chaerdydd Creadigol: Eszter Gurbicz

Ymunodd Eszter Gurbicz â Chaerdydd Creadigol fel myfyriwr ar leoliad dros yr haf yn gweithio ar brosiect cyfathrebu ac ymgysylltu. Canolbwyntiodd Eszter ar y sectorau ffasiwn a llyfrgelloedd yn ystod ei lleoliad.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 28 July 2022

Mae ‘sgwennu’r darn hon yn gwneud i mi feddwl am ba mor gyflym mae amser yn hedfan heibio, ffaith sy’n cael ei atgoffa i mi yn aml ddyddiau yma. Pan nesi raddio wythnos diwethaf, dwi’n cofio meddwl ‘Dwi newydd symud i Gaerdydd i ddechrau yn y Brifysgol, sut fy mod i wedi graddio yn barod…”.

Mi ges i chwe wythnos ar y lleoliad hon a pan ddywedodd Carys, fy ngoruchwyliwr, y byddai’n ‘sgwennu’r erthygl yma ar ddiwedd fy amser oedd hi’n teimlo fel amser maith i ffwrdd, ond eto- dyma fi. Dwi’n teimlo mor ffodus fy mod i wedi cael y profiad yma i wneud lleoliad ar ddiwedd fy ngradd ac mae’r ffaith bod y gwaith wedi bod hefo Caerdydd Creadigol wedi gwneud pethau hyd yn oed yn well. Er fy mod i’n dymuno dal gafael ar yr amseroedd da hyn, dwi hefyd yn hapus i adlewyrchu ar fy amser a’r siwrne fe wnaeth fy arwain i yma.

Mewn ffordd, mae’n gwneud synnwyr fy mod i wedi cychwyn gweithio yn y diwydiannau creadigol gan ei fod yn dod mor naturiol i mi. Fel plentyn, mi oeddwn i’n arfer gwario lot o amser yn astudio cerdd a chelf. Mi oedd fy mhrynhawniau ar ôl ysgol yn llawn gwersi piano, theori gerddorol ac ysgol celf. Yn ystod fy amser yn ysgol uwchradd fe wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn ffasiwn. Mi oeddwn i’n ffodus iawn i allu mynd i ddosbarthiadau wedi eu cynnal gan newyddiadurwraig ffasiwn yn Budapest, a oedd yn ffocysu ar ffasiwn gynaliadwy. Dyma’r athrawes yn fy ysbrydoli i symud i Gaerdydd i astudio Newyddiaduriaeth a Diwylliant. Dwi mor falch fe wnes i benderfynu astudio’r cwrs, cefais y cyfle i ddysgu gymaint am newyddion a’r cyfryngau, gyda darlithwyr gwych yn ystod y tair blynedd a oedd pob tro yn fy annog i ddilyn fy niddordebau. Mi ges i hefyd cyfle i brofi cyfryngau myfyrwyr fel ysgrifennu a dylunio cylchgrawn, sef fy mhrif ddiddordebau nawr. Felly, yn dod o’r cefndir yma, pan welais fod cyfle lleoliad hefo Caerdydd Creadigol, oeddwn i’n gwybod fod rhaid i mi wneud cais, ac mi oeddwn i mor hapus pan wnes i glywed bod fy nghais yn llwyddiannus.

Fy ngwaith ar leoliad

Eszter and Devika on the BBC Wales Tour, Cardiff

Roedd y prosiect buom yn gweithio arno yn un cyffroes iawn. Yn ystod y cyfnod ar leoliad dyma Devika a finnau, sef y fyfyrwraig ar leoliad arall sydd hefyd yn ffrind da i mi, yn dechrau gydag ymchwilio pedwar sector creadigol yng Nghaerdydd: Ffasiwn, llyfrgelloedd, pensaernïaeth a chyhoeddi. Mi oeddwn i’n ffocysu ar y ddau cyntaf. Dechreuais hefo adroddiad cwmpasu, yn edrych ar beth mae Caerdydd Creadigol wedi cyflawni hyd yn hyn a beth yw’r potensial yn seiliedig ar y diwydiant creadigol yng Nghaerdydd. Cefais y cyfle i siarad ag unigolion diddorol o’r sectorau ffasiwn a llyfrgelloedd, rhywbeth oeddwn i’n ffeindio’n ddefnyddiol iawn; fe wnes i ddysgu lot fawr ganddyn nhw.

Oedd ail ran y prosiect yn cynnwys dyfeisio cynllun i gyfathrebu ac ymgysylltu hefo’r sectorau, ac yna roedd angen gweithredu’r cynllun. Ymysg yr holl syniadau, dyma ni’n penderfynu creu ymgyrch Instagram yn ffocysu ar y diwydiant ffasiwn. Yn ystod fy ngwaith ymchwil, cefais weld yr amryw o bobl dalentog oedd yn gweithio yn y sector ffasiwn yng Nghaerdydd ac roeddwn i eisiau dyfeisio ffordd y byswn i’n gallu tynnu sylw atyn nhw. Dechreuais gysylltu hefo dylunwyr a steilwyr ac yna creu cynnwys oedd yn dangos ei phroffiliau a’i gwaith. Dyma’r ymgyrch terfynol, gyda'r teitl Ffocws ar Ffasiwn, yn rhedeg dros bythefnos. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys postio ar stori Instagram a hefyd ‘takeover’ gan aelod o’n rhwydwaith. Yn ogystal â hyn, rydyn ni hefyd yn cynllunio digwyddiad, sydd (gobeithio) am gael ei gynnal yn yr hydref.

Yn ogystal â’r prif brosiect cawson hefyd neud pethau eraill fel rhan o’r lleoliad, gan gynnwys ‘takeover’ Instagram ein hunain yn tynnu sylw at fannau creadigol yng Nghaerdydd. Dyma ni hefyd yn helpu’r tîm yn ystod ClwstwrVerse yng nghychwyn mis Gorffennaf, profiad diddorol iawn a oedd yng nghyflwyniad gwych i beth mae Clwstwr a Caerdydd Creadigol yn gallu gwneud i gefnogi’r sectorau creadigol yma.

Pe bai'n rhaid i mi ddewis un peth am y lleoliad hwn roeddwn i'n ei fwynhau fwyaf, dwi'n byswn i'n dewis y ffaith fy mod i wedi trio rhywbeth newydd drwy siarad â chymaint o bobl wahanol! Rwy’n teimlo bod hynny wedi dysgu llawer i mi am y gymuned greadigol yng Nghaerdydd, a'r holl gyfleoedd sydd yma. Yn ogystal, mi wnes i fwynhau gwneud yr holl waith ymchwil a chynllunio ar gyfer yr ymgyrch. Er bod gen i rywfaint o brofiad gyda marchnata cyfryngau cymdeithasol o'r blaen, dyma'r tro cyntaf i mi ddyfeisio syniad fy hun a chael y rhyddid creadigol i'w weithredu hefyd, a oedd yn gyffrous iawn.

Roedd tipyn o heriau hefyd, wrth gwrs, efallai mai un o'r rhai mwyaf oedd yr amser cyfyngedig a gawsom yma. Er mwyn ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl, roedd yn bwysig cadw at ein hamserlen i sicrhau ein bod yn gallu cwblhau'r hyn a gynlluniwyd gennym. Fodd bynnag, diolch i'r holl gefnogaeth a gawsom, gallem lwyddo i gyflawni'r canlyniadau a'r ymgyrchoedd ar amser.

Ni fyddai hyn i gyd wedi bod yn bosibl heb y tîm a dwi wir yn ddiolchgar am eu cefnogaeth! Roeddwn i’n teimlo mor gyfforddus yn gweithio gyda phawb yng Nghaerdydd Creadigol a’r Tîm Economi Creadigol ehangach. Roedden nhw i gyd yn groesawgar a chymwynasgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo fel fy mod i’n rhan o’r tîm – am y cyfnod byr y lleoliad o leiaf! Rwy’n meddwl bod hyn wedi gwneud fy ngwaith yn llawer haws i’w wneud, felly rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfan.

Yn gyffredinol, rwy’n teimlo mai un o’r pethau pwysicaf dwi wedi ei ddysgu o’r lleoliad yw bod cymaint mwy o Greadigrwydd yng Nghaerdydd nag yr oeddwn yn ei feddwl! Ar ôl cael y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau, ymchwilio a siarad â phobl, rydw i wedi dod i gredu bod Caerdydd yn berl cudd i bobl greadigol. Efallai nad yw mor adnabyddus â dinasoedd mawr eraill, ond mae ganddi gymuned lewyrchus a rhyfeddol a chymaint o gefnogaeth i'r rhai sydd am ddechrau gyrfa greadigol. Er bod Caerdydd eisoes yn lle gwych ar gyfer creadigrwydd, gyda nifer o hybiau a mannau creadigol, rwy’n meddwl gyda chymorth Caerdydd Creadigol, a chyda’r holl wybodaeth a gasglwyd gennym yn ystod y lleoliad hwn, y gall dyfu i fod yn hyd yn oed gwell i'r gymuned greadigol. Mae gen i lawer o syniadau beth i'w wneud nesaf, ac er na fyddaf yma i weithredu'r cynlluniau, rwy'n gwybod eu bod mewn dwylo da. Rwy'n gyffrous i ddod yn ôl yn y dyfodol a gweld sut mae'r gymuned greadigol wedi esblygu!

Fy nghamau nesaf

Felly, beth sydd nesaf ar ôl gorffen y lleoliad hwn? Yn bwysicaf oll, rydw i eisiau parhau i astudio a gwneud gradd ôl-raddedig. Hefyd, nid wyf wedi rhoi’r gorau i fy mreuddwyd o ysgrifennu, felly rwyf bob amser yn edrych am gyfleoedd i gael mwy o brofiad. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cylchgronau, yn enwedig yr ochr ysgrifennu a dylunio. Mewn ffordd, roedd gwneud y lleoliad hwn wedi fy ngwneud yn fwy sicr am y cyfeiriad rydw i eisiau mynd iddo, ac rydw i'n teimlo fy mod wedi fy ysgogi i ddysgu a thyfu yn y dyfodol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event