Fy lleoliad hefo Caerdydd Creadigol: Devika Sunand

Ymunodd Devika Sunand â Chaerdydd Creadigol fel myfyriwr ar leoliad dros yr haf yn gweithio ar brosiect cyfathrebu ac ymgysylltu. Canolbwyntiodd Devika ar y sectorau pensaernïaeth a cyhoeddi yn ystod ei lleoliad.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 September 2022

Devika headshot

Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

Devika ydw i, a raddiodd yn ddiweddar yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant o Brifysgol Caerdydd. Mae Caerdydd yn bell iawn o’m cartref- India (Kerala) a dwi bellach wedi gorffen fy ngradd tair blynedd. 

Pan fyddaf yn meddwl am fy nghefndir creadigol, rwy'n cofio pa mor angerddol oedd fy awydd i fynd i'r celfyddydau. Gan na chefais lawer o gyfleoedd yn yr ysgol i astudio'r celfyddydau, roeddwn i'n arfer gwneud hynny tu allan i'r ysgol pryd bynnag cawn i gyfle.  Roedd fy mam yn arbennig yn fy annog i wneud pob peth byddwn i’n penderfynu ar hap fy mod i eisiau ei wneud.  Rwy'n cofio treulio fy ngwyliau haf yn ymuno â dosbarthiadau ac yn amsugno popeth, gan dorri fy syched am y celfyddydau. Fwy na thebyg dyna oedd fy hoff ran o'r flwyddyn gyfan, a phan oedd hi'n bryd i mi ddewis gradd, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi ddewis y celfyddydau. Roedd yn ddewis amlwg! Rwyf wrth fy modd yn ysgrifennu, ac rwyf bob amser wedi gwneud hynny.  Pan welais y cyfle hwn yn cael ei gylchredeg, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi wneud cais. Roedd y rhan fwyaf o'm profiadau blaenorol ym maes marchnata a chreu cynnwys ac roeddwn yn chwilio am rywbeth a oedd yn tyrchu’n ddyfnach i'r diwydiannau creadigol. Dyna sut cyrhaeddais i yma.

Dywedwch wrthym am eich prosiect gyda Chaerdydd Creadigol

Roedd fy mhrosiect gyda Chaerdydd Creadigol yn un eithaf diddorol. Rwy'n credu mai'r hyn oedd yn wir wrth fy modd ynghylch y rôl oedd ei bod yn cynnwys llawer o greadigrwydd, er mai’r prif nod oedd ymchwilio. Roedd fy mhrosiect yn cynnwys annog pobl i ymuno â'r rhwydweithiau pensaernïaeth a chyhoeddi drwy ddrafftio ymgyrchoedd i Gaerdydd Creadigol. Roedd o gymorth mawr i mi ddeall gwahanol ddiwydiannau a'r math o waith a'r brwydrau maen nhw'n eu hwynebu a'r effaith maen nhw'n ei chael, yn enwedig gyda Covid.

Devika yn y BBC hefo Carys a Eszter
Devika yn y BBC hefo Carys a Eszter

Pa agwedd ar y lleoliad wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf?

Rwy'n credu mai uchafbwynt fy lleoliad fyddai digwyddiad ClwstwrVerse a gynhaliwyd ddechrau Gorffennaf 2022. Dyna pryd cefais i gwrdd â'r tîm ehangach a deall beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni. Roedd gweld pawb yn gweithio gyda'i gilydd tuag at nod cyffredin a gweld y cyfan yn dod at ei gilydd yn teimlo'n hynod werth chweil a llawen ar yr un pryd. Roeddwn hefyd yn gweithio gyda fy ffrind annwyl o brifysgol Ezster yn ystod y lleoliad, a oedd yn ei wneud yn llawer mwy pleserus! Rwyf wedi clywed yn aml gan bobl fwy profiadol yn y diwydiant mai'r rhan orau wrth weithio yw'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw. Rwy'n credu fwy na thebyg mai dyma'r tro cyntaf i mi ddeall beth roedden nhw’n ei olygu.  Mae'r gweithle rydych chi ynddo yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y ffordd rydych chi'n canfod ac yn tyfu yn broffesiynol ac yn unigol ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.

Pa heriau gwnaethoch chi eu hwynebu a sut gwnaethoch chi eu goresgyn?

Rwy'n credu mai'r brif her a deimlais yn ystod y lleoliad oedd y terfyn amser oedd yn fy wynebu. Bu’r lleoliad yn weithredol am bron 6-7 wythnos a chodwyd llawer o syniadau newydd ar hyd y cyfnod hwnnw.  Ond roedd yr amser oedd gen i er mwyn cynllunio a gweithredu yn gyfyngedig, oedd yn golygu fy mod i’n wynebu tipyn o straen a sefyllfa heriol ar adegau. Fodd bynnag, roedd y gefnogaeth a gefais gan fy ngoruchwyliwr Carys a phawb yn y tîm ehangach yn ddigymar.

Beth ddysgoch chi am y gymuned greadigol yng Nghaerdydd? 

Cefais fy synnu o wybod bod cynifer o bobl a rhwydweithiau creadigol yng Nghaerdydd, sydd yn aml ddim yn weladwy ar yr olwg gyntaf. Rwyf hefyd yn dwlu ar ba mor agored a chroesawgar yw pobl i syniadau newydd! Drwy gydol fy lleoliad, roedd yr holl bobl y bues i’n cwrdd â nhw ac yn siarad â nhw yn galonogol a chroesawgar dros ben. Rwy'n credu bod hynny hefyd yn gwneud ichi fod eisiau rhoi o’ch gorau fel gweithiwr proffesiynol ac fel bod dynol.

Beth sy’n dod nesaf i chi?

Ar y pwynt hwn, hoffwn ymchwilio'n ymarferol i'r hyn yr wyf wedi'i ddysgu a'i ennill trwy fy ngradd. Fel myfyriwr graddedig diweddar, mae ymuno â'r farchnad swyddi yn swnio braidd yn frawychus ond rwyf hefyd yn gyffrous i weld sut bydd fy mywyd yn datblygu.  Rydw i eisiau parhau i ddysgu ac rydw i hefyd eisiau gwneud astudiaeth ôl-raddedig rywbryd, ar ôl i mi ennill rhywfaint o brofiad. Rwy'n mwynhau dysgu a hoffwn gadw'r ochr honno ohonof yn fyw a gwneud yn fawr o’r hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig!

 

 

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event