Hanan Issa yn cael ei henwi'n Fardd Cenedlaethol Cymru

Hanan Issa, y bardd Iraci-Gymreig o Gaerdydd, yw Bardd Cenedlaethol newydd Cymru o 2022 - 2025. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 14 July 2022

Mae’r cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei gynnal gan Lenyddiaeth Cymru, yn mynd â barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd ac yn annog pobl i ddefnyddio eu lleisiau creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol.

Wedi’i sefydlu yn 2015, mae’r Bardd Cenedlaethol yn llysgennad dros bobl Cymru, yn lledaenu’r neges bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb a’n rhoi llwyfan barddonol i rai o faterion pwysicaf ein hoes. Mae Beirdd Cenedlaethol blaenorol yn cynnwys: Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Gwyn Thomas Gwyneth Lewis.

Mwy am Hanan Issa

Hanan Issa is National Poet of Wales
Hanan Issa (credit Camera Sioned / Llenyddiaeth Cymru)

Mae Hanan yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig. Ymysg ei chyhoeddiadau mae casgliad barddoniaeth, My Body Can House Two HeartsWelsh (Plural): Essays on the Future of Wales. Hanan yw cyd-sylfaenydd y gyfres meic agored Where I’m Coming From. Derbyniodd gomisiwn 2020 Ffilm Cymru/ BBC Wales ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple.

Yn trafod y penodiad, dywedodd Hanan:

Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad. Mae’r Gymraeg ei hun wedi datblygu law yn llaw â ffurf hynaf y wlad ar farddoniaeth ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i ailddyfeisio ffyrdd o ymgysylltu’n greadigol â thraddodiadau a hanes Cymru. Yn ogystal, mae barddoniaeth yn fy helpu i wneud synnwyr o’r byd ac rwyf am rannu’r cysur a’r eglurder y gall ei roi ar adegau o ansicrwydd

Dechreuodd y broses benodi ar gyfer Bardd Cenedlaethol Cymru gyda galwad gyhoeddus am enwebiadau. Yna trosglwyddwyd y penderfyniad i banel dethol yn cynnwys Natalie Jerome, asiant llenyddol; cyn Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam; Asiant dros Newid Cyngor Celfyddydau Cymru, Andrew Ogun; ac Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu.

A ran y panel, dywedodd Ashok Ahir:

Roedd yn rhaid i’r panel ddewis rhwng ystod amrywiol o arddulliau a lleisiau barddonol ac roedd yn wych gweld y lefel uchel o dalent sy’n gweithio yng Nghymru heddiw.

Mae hwn yn apwyntiad hynod gyffrous.

Mae Hanan yn llais traws-gymunedol sy'n siarad gyda phob rhan o'r wlad. Bydd hi’n llysgennad gwych i genedl amrywiol ei diwylliant ac eangfrydig

Darllenwch fwy am benodiad Hanan

Rhagor o wybodaeth am Lenyddiaeth Cymru

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event