Headshot of Jess

Jess Mahoney

Rheolwr Caerdydd Creadigol

Jess yw Rheolwr Caerdydd Creadigol. Mae hi'n arwain y gwaith o reoli'r rhwydwaith a’i weithgareddau o ddydd i ddydd, yn ogystal â gosod y weledigaeth strategol ar gyfer yr hyn y bydd Caerdydd Creadigol yn ei wneud i gefnogi datblygiad ein dinas gysylltiedig, gydweithredol a chreadigol. Ar ôl ymuno â’r tîm ym mis Medi 2022, y mae hi'n arbennig o awyddus i archwilio’r ffyrdd y gall y sefydliad feithrin cymunedau creadigol y ddinas i fanteisio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg a datblygu gwytnwch wrth iddynt ddod allan o ansicrwydd Covid-19.

Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, mae Jess wedi treulio’r 15+ mlynedd diwethaf yn gweithio yn y sector diwylliant a threftadaeth, cymorth busnes a’r economi greadigol rhwng Cymru a Llundain. Mae hyn wedi cynnwys rolau yn y Llyfrgell Brydeinig, Central School of Ballet, Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru, Gŵyl y Gelli a Phrifysgol De Cymru. Cyn ymuno â Chaerdydd Creadigol, bu’n cyflwyno rhaglen flaenllaw Ardaloedd Menter Greadigol Maer Llundain, mewn partneriaeth ar draws wyth o fwrdeistrefi yn Llundain.

Yn angerddol dros bobl, partneriaethau, lleoedd a phwrpas, mae Jess wedi gwirioni bod yn ôl ar dir ei chartref a methu disgwyl i gychwyn arni a gwneud Caerdydd Creadigol hyd yn oed yn fwy dylanwadol nag y mae eisoes.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event