Jess yn myfyrio ar ein Paned i Ysbrydoli ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod: Pwy sy’n ofni arloesedd?

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth 2024, bu Caerdydd Creadigol yn gweithio gyda’n partneriaid a’n ffrindiau yn Creative Collective a Media Cymru ar gyfer digwyddiad arbennig o’n cyfres Paned i Ysbrydoli poblogaidd.

Mae Pennaeth Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney, a gadeiriodd y drafodaeth banel, yn rhannu ei phrif fyfyrdodau o’r digwyddiad:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 28 March 2024

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 oedd ‘ysbrydoli cynhwysiant ac arloesi’. Gan adlewyrchu ar y pynciau hyn, cynhaliom drafodaeth banel yn cynnwys rhai o arloeswyr gorau’r rhanbarth dan arweiniad menywod yn Lolfa Arloesedd Sgwâr Canolog y BBC ar y testun ‘Pwy sy’n ofni arloesedd?’

Ymunodd y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Amy Daniel, Prif Weithredwr Hijinx Sarah Horner, Prif Swyddog Gweithredol stiwdio edge21 Rebecca Hardy a sylfaenydd Elemental Health Angela McMillan i rannu eu profiadau o gwmpas Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd (R, D & I) yn y maes creadigol a sectorau'r cyfryngau.

An image of Jess presenting at our event

Dyma fy mhrif fyfyrdodau o'r digwyddiad:

1. Anghofiwch am stereoteipiau

Gall ‘arloesi’ dueddu i fod yn un o’r geiriau hynny – ychydig fel ‘entrepreneur’ neu ‘academaidd’ – y gall pobl deimlo'n od yn ei ddefnyddio i gyfeirio at eu hunain. Mae hefyd yn air y gellir ei bwyso a’i fesur gyda disgwyliadau ynghylch rhywedd a hunaniaeth. Er enghraifft, efallai y byddwn yn clywed y gair ‘arloeswr’ ac yn meddwl yn syth am y ‘male inventor trope’ clasurol, neu fel arall y 'playboy' cyfoethog yn ceisio adeiladu roced ofod. Ond nid oes rhaid i ni edrych na gweithredu mewn ffordd benodol i gyfiawnhau archwilio a datblygu ein syniadau da.

2. Peidiwch â meddwl bod yn rhaid i chi gael yr holl atebion

Mae arloesi effeithiol yn ymwneud â chael yr hyder i brofi ac archwilio atebion posibl i broblem neu her, a dysgu o'ch ymchwil yn weithredol. Nid yw’n fater o wybod yr holl atebion cyn i chi ddechrau eich prosiect, ac nid oes rhaid i chi fod yn ‘arbenigwr’ i fod yn arloeswr. Mae ymchwil yn dangos bod menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o brofi syndrom imposter a chael eu dal yn ôl gan ddiffyg hyder yn eu cymwysterau, arbenigedd neu statws. Ond mae ymchwil a datblygiad da yn dibynnu ar y gallu i fod yn agored i arsylwadau, profi a dysgu newydd, felly peidiwch â gadael i ofn yr hyn nad ydych chi'n ei wybod eich rhwystro rhag yr holl bethau gwych y gallech ddarganfod drwy ymchwil.

3. Mae safbwyntiau ffres, amrywiol a dilys yn hanfodol

Does dim ots pwy ydych chi, dydych chi ddim mor effeithiol ag y gallech chi fod os nad ydych chi'n bod ynoch chi'ch hun. Mae’n dod yn bwysicach nag erioed ein bod yn croesawu lleisiau a syniadau newydd – yn enwedig y rheini o grwpiau sydd wedi’u heithrio’n draddodiadol o strwythurau pŵer cyffredinol – wrth inni chwilio am atebion i heriau cymhleth. Eich dilysrwydd, eich profiadau a'ch safbwynt unigryw yw'r hyn sy'n rhoi mantais i chi fel arloeswr, gan eich galluogi i weld cyfleoedd ac atebion posibl na fydd eraill o bosibl yn gallu eu gwneud. Felly mae'n hen bryd i ddathlu'r ymdeimlad hwnnw o'ch hunan fel eich pŵer arloesol.

An image of the panel

4. Mae dau ben yn well nag un

Peidiwch â gadael i fylchau yn eich gwybodaeth eich rhwystro rhag arloesi. Os oes gennych chi syniad gwych am ffordd newydd i ddatrys her, ond ddim yn siŵr sut i’w wireddu a gwneud iddo ddigwydd, dewch o hyd i rywun sydd â sgiliau a phrofiadau cyflenwol i’ch rhai chi. Gwyddom fod arloesi yn y sector creadigol yn cael ei ysgogi gan gydweithredu ar draws gwahanol ddisgyblaethau a meysydd. Dyna pam mae Caerdydd Creadigol yn cynnal rhaglen lawn dop o ddigwyddiadau rhwydweithio anffurfiol sy’n lle perffaith i ddechrau cwrdd â’ch darpar gydweithwyr yn y dyfodol ac adeiladu partneriaethau newydd, dwyochrog. Darganfyddwch fwy am yr hyn sydd i ddod trwy edrych ar ein tudalen digwyddiadau.

5. Mae hi'n werth trio am gyllid

Er ein bod yn cymryd yn ganiataol bod sectorau fel peirianneg a biowyddoniaeth yn dibynnu ar amser ac adnoddau ar gyfer ymchwil a datblygu (R&D) o gynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn draddodiadol nid yw hyn wedi cael ei ddarparu cystal yn y diwydiannau creadigol. Hefyd, mae ymchwil a datblygu da yn cymryd amser, ac mae amser yn costio arian, sy'n gallu gwneud ymchwil a datblygu yn anhygyrch i fwyafrif gweithwyr y sector. Dyna le mae mentrau fel Ffrwd Arloesedd Media Cymru yn creu cyfleoedd gwerthfawr i chi gychwyn ar eich taith fel arloeswr diwydiannau creadigol. Gall gweithwyr llawrydd creadigol a busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a ledled Cymru wneud cais am hyd at £10,000 o gyllid grant i syniadau ymchwil a datblygu ar gyfer cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau.

Mae ceisiadau ar gyfer Cronfa Sbarduno Media Cymru yn cau ddydd Llun 8 Ebrill. Rhagor o wybodaeth am y Gronfa Sbarduno. 

Amy speaking on the panel

Ein digwyddiad Paned i Ysbrydoli nesaf 

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal digwyddiad Paned i Ysbrydoli nesaf ar ddydd Gwener 19 Ebrill 14:00 yn Tramshed Tech ar y thema ‘Cyfathrebu dwyieithog’ gyda’r Uwch Reolwr Cynnwys Digidol, Laura Truelove. Rhagor o wybodaeth a cofrestru.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event