Mae NoFit State, y cwmni syrcas o Gaerdydd, yng Ngerddi Sophia

Ar ddiwedd taith ryfeddol 2022 ledled Cymru a Lloegr, dyma NoFit State yn dod â’u cynhyrchiad newydd adref i Gaerdydd dros mis Awst a mis Medi. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 7 September 2022

Mae NoFit State yn gwmni sydd wedi’i ganmol yn rhyngwladol, yn cymysgu syrcas gyfoes, cerddoriaeth fyw, dawns, dylunio llwyfan, testun a ffilm i greu cynyrchiadau theatrig. NoFit State yw’r cwmni syrcas gyfoes fwyaf blaengar yn y DU ar raddfa fawr, yn perfformio ei sioeau ledled y byd.

Mae'r cynhyrchiad diweddaraf, SABOTAGE, wedi'i gyfarwyddo gan Firenza Guidi, wedi cael ei berfformio yng Ngerddi Sophia mis Awst a Medi eleni, cyn mynd ar daith ryngwladol flwyddyn nesaf.

Yn trafod pwysigrwydd o ddod adref i berfformio i gynulleidfa yng Nghaerdydd, dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol NoFit State:

Mae’n wych bod yn ôl yng Ngerddi Sophia mor fuan, mae fel dod adref, yn enwedig ar ôl bod ar daith o amgylch y DU gyda’n sioe newydd, SABOTAGE. Does dim amheuaeth fod pawb allan yna yn teimlo fod hi'n gyfnod anodd, ac mae’r amseroedd yn galed, ond bydd angen bara a syrcas ar bobl bob amser, ac mae’n wych gallu codi ysbryd ein cynulleidfa yng Nghaerdydd a dod â rhyfeddod i bobl yn yr amseroedd tywyll hyn

Mae NoFit State wedi’i leoli yn Sblot ac Adamsdown, ac yn ddiweddar fe wnaethom drefnu Gŵyl Clifton Street gan ddod â holl elfennau’r gymuned allan ar y stryd gyda chymorth a chefnogaeth wych gan artistiaid, cantorion a cherddorion lleol. Roedd yn ddathliad o’n holl dalentau amrywiol, a gobeithiwn bydd llawer mwy o ddathliadau tebyg.

Darllenwch ragor am Ŵyl Clifton Street.

Tom Rack
Cyfarwyddwr Artistig Tom Rack (llun gan Richard Davenport)

Er bod cartref NoFit State yng Nghaerdydd, mae SABOTAGE yn dod â chast medrus o berfformwyr o bob rhan o’r byd – o Albania i Iwerddon, o Frasil i Gymru.

Trystan Chambers
Trystan Chambers, llun gan Mark Robson

Dywed Trystan Chambers, y perfformiwr SABOTAGE o Gymru:

Dwi wedi bod wrth fy modd yn dod a’r sioe yma i Gaerdydd. Dwi wedi dysgu gyda’r cwmni am rai blynyddoedd cyn y daith hon ac mae'n daith anhygoel, un sy'n teimlo fel ein bod yn dod adref!

Mae’r sioeau’n llawn wynebau cyfeillgar – sy’n dod â ffrindiau newydd gyda nhw fel y gallan nhw hefyd ddod yn rhan o deulu NoFit Caerdydd.

Roedd gwneud prosiect Clifton Street yn rhywbeth arbennig hefyd – dangosodd i mi a’r perfformwyr SABOTAGE eraill faint o effaith y gall syrcas a NoFit State ei chael ar ardal, yn enwedig ei hardal gartref Adamsdown.

Roedd hi braidd yn arbennig i weld aelodau o’r gymuned syrcas yma yng Nghaerdydd, ac aelodau o’r gymuned leol yn cyd-dynnu i greu rhywbeth i bobl Stryd Clifton. Roedd yn hwyl, yn ddeniadol ac yn ddigwyddiad llawen.

 Cipolwg o'r sioe yng Ngerddi Sophia

Lluniau gan: Mark Robson

NoFit State performer

NoFit State performer with football

NoFit State performer

Darllenwch rhagor am y sioe ar wefan NoFit State.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event