Mae ymchwil newydd yn dangos bod gweithwyr llawrydd diwylliannol yng Nghymru wedi colli 59% o'u hincwm yn 2021 oherwydd COVID-19

Mae ymchwil newydd gan Weithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru (CFW) ac  Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd wedi canfod bod pandemig COVID-19 wedi effeithio'n anghymesur ar weithwyr llawrydd, sy'n ffurfio hanner gweithlu'r sector diwylliannol yng Nghymru.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 January 2022

Mae adroddiad Y Ffordd at Adferiad? , sy’n seiliedig ar arolwg sector o ddiwedd 2021, yn edrych ar y sefyllfa bresennol a'r rhagolygon ar gyfer gweithwyr llawrydd i’r dyfodol, ac yn gofyn pa gynnydd, os o gwbl, a wnaed i sicrhau cydbwysedd o’r newydd yn y sector diwylliannol wrth i ni symud ymlaen ar y ffordd at adferiad o bandemig COVID-19.

Mae'r canfyddiadau'n dangos, gan fod hanner y gweithwyr llawrydd wedi colli dros 80% o'u gwaith yn ystod 2021, fod y rhagolygon presennol ar gyfer y sector yng Nghymru yn dal yn llwm. Yn union fel yr oedd lleoliadau'n agor, cynulleidfaoedd yn dychwelyd yn betrus, a gweithwyr llawrydd yn cael eu cyflogi eto, arweiniodd amrywiolyn Omicron at gyfyngiadau newydd.

Er i'r ymchwil ganfod bod yr amrywiol gynlluniau cymorth ariannol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyrff y sector yn rhoi rhywfaint o gymorth i fwyafrif o’r gweithwyr llawrydd diwylliannol, nid oedd hynny’n talu am yr holl golledion a brofwyd gan weithwyr llawrydd.

Mae'r data hefyd yn dangos bodgweithwyr llawrydd â nodweddion gwarchodedig a/neu oedd â chyfrifoldebau gofalu yn 2021yn wynebu rhwystrau ychwanegol i dderbyn cymorth ac mewn mwy o berygl o adael y diwydiant.

Nawr bod llawer o gynlluniau cymorth a gynhaliwyd yn ystod 2021 wedi cau a bod cyfyngiadau newydd ar waith, mae gweithwyr llawrydd yn wynebu blwyddyn gythryblus ac anodd o'n blaenau. Felly, mae'n bwysig cefnogi'r sector ymhellach yn ystod y misoedd nesaf. Ym mis Ionawr cyhoeddwyd trydedd rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod £15.4 miliwn arall ar gael i gefnogi'r sector celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus COVID-19 yn 2022, sydd i'w groesawu'n fawr.

Cewch hyd i ragor o wybodaeth yn yr adroddiad llawn ar wefan Gweithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru neu gallwch ei lawrlwytho isod.

Cliciwch ymawrando ar yr adroddiad.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event