Myfyrio ar ein Parti Haf

Ar Ddydd Iau 20 Gorffennaf, croesawyd 150 o gefnogwyr, rhanddeiliaid a phobl greadigol i’n Parti Haf Caerdydd Creadigol a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Crëwyd cysylltiadau newydd, a chafodd hen rai eu hadfywio, gyda diodydd, canapés ac adloniant gan y delynores wych Bethan Nia, Children's Poet Laureate Connor Allen a’r Panic Shack nerthol. Mae Pennaeth Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney, yn myfyrio ar y digwyddiad hwn:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 4 August 2023

8 mlynedd o Gaerdydd Creadigol

Mae Caerdydd Creadigol wedi gwneud ac wedi bod yn llawer o bethau gwahanol dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae ein rhwydwaith o aelodau sy’n wedi tyfu i dros 4,000 ledled y ddinas, yn y cyfamser mae digwyddiadau, prosiectau, comisiynau, gweithgareddau, cyhoeddiadau ymchwil, partneriaethau a llawer mwy wedi bod yn niferus. Mae Caerdydd Creadigol wedi helpu i lunio, ac i adrodd, stori greadigol y ddinas. Mae hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer y gwaith pwysig iawn sydd wedi’i gyflawni drwy Clwstwr, a nawr Media Cymru.

Ond yr hyn sydd wedi bod yn gyson wrth wraidd yr holl weithgarwch hwn yw ymrwymiad i sicrhau bod Caerdydd yn y mwyaf cysylltiedig, cydweithredol a chreadigol y gall fod, ac i ddod o hyd i ffyrdd o wneud i hynny ddigwydd.

Mae yna nifer ac amrywiaeth o geidwaid gwych wedi bod i waith Caerdydd Creadigol ers 2015. Ond dros yr 11 mis diwethaf rydw i wedi cael yr anrhydedd a’r fraint fawr iawn o weithio gyda’r tîm gwych yng Nghanolfan i'r Economi Creadigol Prifysgol Caerdydd i feddwl beth yw’r cam nesaf yn nhaith Caerdydd Creadigol.

Llun o Jess yn cyflwyno

‘Caerdydd’ estynedig

Mae sefydlu’r 'City Deal' a datblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y cyfnod ers sefydlu Caerdydd Creadigol wedi gwella ein dealltwriaeth o rôl Caerdydd wrth galon rhanbarth amrywiol ac economaidd arwyddocaol. Yn y cyfamser mae ehangu clwstwr creadigol ffyniannus y ddinas, yn enwedig yn sector y cyfryngau, wedi ysgogi swyddi a chyfleoedd newydd y bydd angen eu llenwi gan weithlu lleol medrus, creadigol ac arloesol yn y dyfodol o bob rhan o’r rhanbarth ehangach.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r angen i Gaerdydd Creadigol gynyddu ei heffaith y tu hwnt i ffiniau traddodiadol canol y ddinas, wedi bod yn gwbl glir.

Partneriaethau newydd cyffrous

Dyna pam yr oeddem wrth ein bodd yn cyhoeddi’r wythnos diwethaf ein bod wedi sefydlu partneriaethau newydd gydag awdurdodau lleol yn Sir Fynwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf i ddarparu Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol – menter beilot sy’n adeiladu ar etifeddiaeth prosiect Clwstwr.

Darganfyddwch fwy am y prosiect cyffrous hwn trwy ddarllen ein datganiad i'r wasg neu wylio'r fideo isod:

Ein gobaith yw y gall Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol fod yn gam cyntaf tuag at sefydlu fframwaith ar gyfer ymagwedd fwy cynhwysol a democrataidd at dwf y sector. Cofiwch gadw golwg dros y misoedd nesaf i ddarganfod mwy am bwy sy'n gweithio gyda ni i wireddu'r prosiect hwn.

Dathlu diwylliant ar lawr gwlad

Wrth wraidd ei lwyddiant, mae’r sector creadigol yn y rhan hon o’r byd yn cael ei bweru gan sîn celfyddydau a diwylliant deinamig ar lawr gwlad. Mae’n gyrru syniadau, gwasanaethau ac arloesiadau newydd, mae’n cychwyn busnesau a mannau newydd, ac mae’n sicrhau twf cynaliadwy drwy ddenu a chadw talent newydd ffres.

Ac wrth gwrs, ni fyddai dim o hyn yn digwydd oni bai am y fyddin o unigolion ysbrydoledig yn ein cymunedau sy’n gweithio’n frwdfrydig ac angerddol i ymhelaethu ar ein bywyd diwylliannol. Dyma’r gwneuthurwyr, y meddylwyr a’r breuddwydwyr y tu ôl i’r ‘llenni’, sy’n gwneud cymaint i ddod â phobl at ei gilydd. Y bobl sydd â’r angerdd a’r awydd i droi syniadau yn realiti, ac sy’n mynd gam ymhellach yn gyson i ychwanegu gwerth at y sector a sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at brofiadau diwylliannol o ansawdd uchel.

A headshot of Connor Allen

Ydych chi'n adnabod Arwr Lleol?

Rydym yn galw’r bobl hyn yn Arwyr Lleol, ac rydym yn lansio ymgyrch Caerdydd Creadigol newydd i’w dathlu, a’r cyfraniad hynod werthfawr y maent yn ei wneud i fywyd diwylliannol De-ddwyrain Cymru.

Wrth i ni agosáu at ein 10fed flwyddyn yn 2025, roeddem am ddod o hyd i ffordd i dynnu sylw a rhoi llwyfan i'r unigolion anhygoel hyn sy'n byw ac yn gweithio yn y ddinas ac o'i chwmpas ac sy'n gwneud cymaint o waith caled - yn aml o dan y radar, ac am ddim gwobr neu gydnabyddiaeth – rhoi’r lle hwn ar y map fel prifddinas creadigrwydd sy’n parhau i fod yn uwch na’i bwysau.

Enwebwch eich arwr lleol.

Panic Shack at our Summer Party

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event