Nosweithiau Animeiddio Caerdydd yn agor cyflwyniadau

Mae Nosweithiau Animeiddio Caerdydd (CAN) yn ddangosiadau misol rhad ac am ddim o ffilmiau byr wedi'u hanimeiddio yn The Underdog yng Nghaerdydd ac ar-lein. Darllenwch fwy am y digwyddiad a sut i gyflwyno'ch ffilmiau i'w sgrinio.

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 12 July 2023

caf subs open picture

Mae CAN wedi bod yn rhedeg ers wyth mlynedd, ac mae wedi dangos rhai o'r ffilmiau byr animeiddiedig gorau o'r gylchdaith gŵyl animeiddio fyd-eang, gan gynnwys ffilmiau byrion sydd wedi ennill Oscar a BAFTA. Mae'r digwyddiadau yn rhoi cyfle i bobl Caerdydd a thu hwnt wylio animeiddiad annibynnol ar y sgrin fawr neu o gartref a chwrdd â phobl o'r un anian.

Meddai Ellys Donovan, Prif Raglennydd Nosweithiau Animeiddio Caerdydd:

Rydym wrth ein bodd yn dod â phobl ynghyd yn Nosweithiau Animeiddio Caerdydd i wylio animeiddiadau gwych. Rydym yn gyffrous i fod yn agor cyflwyniadau am y tro cyntaf ac yn edrych ymlaen at weld yr holl waith anhygoel a fydd yn cael ei gyflwyno o bob rhan o'r byd.

Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae Nosweithiau Animeiddio Caerdydd wedi tyfu o gyrraedd cynulleidfa o 20 yn ystafell gefn tafarn yng Nghaerdydd, i gyrraedd cynulleidfaoedd misol o hyd at 200 yn The Underdog yng Nghaerdydd. Hyd yma, mae CAN wedi dangos dros 600 o ffilmiau animeiddiedig mewn lleoliadau yng Nghaerdydd ac ar-lein.

Cyflwyniadau nawr ar agor

Am y tro cyntaf, mae CAN yn agor cyflwyniadau, gan ganiatáu i wneuthurwyr ffilm gyflwyno ffilmiau animeiddiedig o unrhyw genre a hyd at 20 munud trwy FilmFreeway. Bob mis bydd rhaglen o ffilmiau byr yn cael eu dewis i'w dangos naill ai ar-lein neu mewn digwyddiadau byw. Bydd yr holl ffilmiau a ddangosir yn 2023 yn gymwys ar gyfer gwobrau Nosweithiau Animeiddio Caerdydd 2023, a bydd ffilm fuddugol yn cael ei dewis gan reithgor o weithwyr proffesiynol y diwydiant a chynulleidfa CAN.

Darganfod mwy am Nosweithiau Animeiddio Caerdydd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event