Pobl greadigol Caerdydd yn Eisteddfod yr Urdd

Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych eleni rhwng 30 Mai – 4 Mehefin, ar ôl dwy flynedd ar lein. Mae’r ŵyl ieuenctid yn arddangos a'n dathlu celf, llenyddiaeth, cerddoriaeth a pherfformio drwy'r Gymraeg gydag amrywiaeth o gystadlaethau a pherfformiadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Roedd yr ŵyl am ddim eleni a gwelwyd 118,000 yn ymweld â’r Maes.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 8 June 2022

Meddai Carys Bradley-Roberts, ein Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, a fu’n gweithio ar stondin Prifysgol Caerdydd yn ystod yr ŵyl:

“Ar ôl dwy flynedd ar-lein, roedd yn wych bod mewn Eisteddfod eto ac yn hyfryd gweld cymaint o bobl greadigol o Gaerdydd yn cystadlu, yn gweithio, ac yn cyfrannu eleni.”

Yn ogystal â chystadlaethau ar y llwyfan, mae’r Urdd hefyd yn dyfarnu gwobrau i’r rhai sydd wedi rhagori mewn ysgrifennu creadigol, barddoniaeth, ysgrifennu dramâu, celf, dylunio a chyfansoddi yn ystod cyfres o seremonïau dyddiol.

Ddydd Llun fe wnaeth Shuchen Xie o Gaerdydd hanes fel y person ieuengaf erioed i ennill un o'r prif wobrau, gan gipio medal y Prif Gyfansoddwr yn 12 mlwydd oed. Ddydd Mercher fe enillodd y cyfieithydd o Gaerdydd, Osian Wynn Davies, y Fedal Ddrama, yr un wythnos â dod yn ail yn y Goron (cystadleuaeth ysgrifennu rhyddiaith). Enillodd Anna Ng, myfyrwraig yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, Fedal Bobi Jones, a ddyfarnwyd i ddysgwyr Cymraeg 14 i 19 oed.

Copyright URDD | Shuchen Xie, 12, winner of the Main Composer medal
URDD | Shuchen Xie, 12, Enillydd gwobr y Prif Gyfansoddwr

Ymhlith llwyddiannau eraill cystadleuwyr Caerdydd oedd Nansi Rhys Adams, a dderbyniodd un o Ysgoloriaethau’r Eisteddfod eleni, a Nel Thomas a enillodd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.

Yn symud i ffwrdd o'r cystadlu, roedd gan bobl greadigol Caerdydd stondinau yn yr ŵyl hefyd a pherfformiwyd rhai yn ystod sioeau gyda'r nos. Yr artist Mythsnits o Gaerdydd ddyluniodd y nwyddau swyddogol ar gyfer Gŵyl Triban, yn ogystal â chasgliad o brintiau arbennig i nodi 100 mlynedd o’r Urdd.

Llongyfarchiadau i holl bobl greadigol Caerdydd am gystadlu, perfformio, a chyfrannu at Eisteddfod yr Urdd gan bob un ohonom yng Nghaerdydd Creadigol!

Darganfod mwy am yr Urdd ac Eisteddfod yr Urdd

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event