Prifysgol Caerdydd a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cydweithio

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 25 May 2017

Mae dau o brif sefydliadau Cymru, Prifysgol Caerdydd a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cydweithio. Bydd Prifysgol Caerdydd a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ehangu eu partneriaeth bresennol drwy ystyried cyfleoedd pellach i gynnig interniaethau i fyfyrwyr, digwyddiadau ymgysylltu ac ymchwil wyddonol.

Llofnodwyd memorandwm cyd-ddealltwriaeth ddydd Iau 25 Mai mewn derbyniad busnes Cymreig yng Ngŵyl Gwrw a Seidr y Dyn Gwyrdd, Y Buarth, gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn bresennol yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ers blynyddoedd, gan gynnwys archeoleg 'gerila', ac arbrofion niwrowyddoniaeth addysgol, ac mae'n rhan o'r gweithgareddau gwyddonol a gynigir yn yr ŵyl – Gardd Einstein. 

Mae'r ddau sefydliad yn chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo Cymru'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, denu partneriaethau ac ymwelwyr, creu swyddi, cyfleoedd busnes, a chyfoeth yn yr economi.

Mewn ymchwil gan UK Music yn 2015, disgrifiwyd Gŵyl y Dyn Gwyrdd fel enghraifft wych o ŵyl sy'n creu cyfoeth, a nodwyd ei bod yn chwarae rhan flaenllaw o ran sbarduno twristiaeth cerddoriaeth ledled y DU, ac yn gwneud cyfraniad allweddol at y £95m sy'n cael ei wario'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o ganlyniad i dwristiaeth cerddoriaeth yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Fel sefydliadau blaenllaw yn ein sectorau yng Nghymru, rwy'n croesawu'r cyfle i ehangu'r bartneriaeth hon. Byddwn yn cydweithio ar nifer o wahanol feysydd o ddiddordeb strategol gyda'r nod o wella'r ddau sefydliad. Rwy'n gobeithio y bydd hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd defnyddiol i'n staff a myfyrwyr."

Dywedodd Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd: "Rydym wedi datblygu prosiectau anhygoel gyda Phrifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd, ac wedi mwynhau hynny mas draw, felly mae ehangu ein partneriaeth yn gam naturiol. Mae Green Man yn gweithio gyda phobl eithriadol o dalentog, ac mae Prifysgol Caerdydd yn un o'r prifysgolion uchaf eu parch yn y byd, felly mae'n ticio pob blwch."

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event