Sesiynau ReFocus newydd - Hyfforddiant cyfathrebu i ddiwydiannau’r sgrin

Hyfforddiant cyfathrebu i ddiwydiannau’r sgrin yw ReFocus, wedi ei gynnal gan Hijinx. Bydd y sesiynau yma yn helpu pobl i weithio yn fwy cynhwysol â chriw ag anabledd dysgu ac/neu awtistig. Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn niwydiannau’r sgrin, boed yn unigolyn llawrydd neu’n rhan o sefydliad, ac i unrhyw adran ym maes teledu a ffilm.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 20 November 2023

Refocus Hijinx

Mae gan Hijinx ddau sesiwn yn dod i fyny ar 6 a 12 Rhagfyr.

Yn y sesiwn diwrnod cyfan hon, byddwch yn cael trafodaethau grŵp hamddenol a chwarae rhannau rhyngweithiol gydag actorion Hijinx a hwyluswyr wedi eu hyfforddi. Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau mewn lle anfeirniadol, cefnogol, a dysgu o brofiad personol eu hactorion.

Mae cyllid gan Cymru Greadigol wedi ein galluogi i gyflwyno ReFocus ar gyfraddau amrywiol gyda chymhorthdal – ac am ddim yn achlysurol.

Rhagor o wybodaeth a cofrestru. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event