Tirnodau diwylliannol Caerdydd

Mae Jeremy Cao, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, yn dweud mwy wrthym am y tirnodau diwylliannol allweddol yng Nghaerdydd y gall ymwelwyr, myfyrwyr a phobl leol eu profi a'u mwynhau.

Dysgwch ragor am ei hoff bedwar tirnod diwylliannol yn y ddinas:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 17 November 2023

1. Canolfan Mileniwm Cymru

Mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru le arbennig yng nghalonnau a meddyliau dinas Caerdydd a'r cymunedau cyfagos. Mae’n cynnal ac yn cynhyrchu perfformiadau, digwyddiadau a phrofiadau o’r radd flaenaf i danio’r dychymyg a chreadigedd - o sioeau cerdd, comedi a dawns i gabaret sy’n torri tir newydd. Maen nhw’n creu eu gwaith eu hunain, yn arddangos straeon a thalent Gymreig yn ddigidol yn rhyngwladol, ac yn gweithio’n frwd gyda phobl ifanc, cymunedau ac artistiaid, gan sicrhau bod pawb yn gallu bod yn greadigol a dysgu sgiliau newydd.
 
Dysgwch ragor am y Ganolfan a beth sydd ar y gweill. 

2. Castell Caerdydd

Mae Castell Caerdydd, sydd wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru, yn dirnod hanesyddol hynod sy’n cynnig cipolwg ar hanes cyfoethog a hudolus y rhanbarth. Gyda’i bensaernïaeth syfrdanol, gwyrddni toreithiog, a straeon hynod ddiddorol, mae Castell Caerdydd yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd.

Mae'r castell wedi'i amgylchynu gan barciau a gerddi eang, gan ddarparu dihangfa dawel o'r ddinas brysur. Mae Parc Bute, sydd y tu ôl i’r castell, yn cynnig tirweddau prydferth, llwybrau cerdded, ac amrywiaeth eang o flodau a bywyd gwyllt. Mae'n lle perffaith ar gyfer mynd am dro hamddenol neu bicnic tawel, neu i gael help i ysbrydoli eich creadigrwydd.

Dysgu mwy am y castell.

3. Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yng nghanol canolfan ddinesig Caerdydd, yn gartref i gasgliadau celf, daeareg a hanes natur cenedlaethol Cymru yn ogystal ag arddangosfeydd teithiol a thros dro mawr. Yn yr amgueddfa gallwch ddod o hyd i gasgliadau helaeth, arddangosfeydd rhyngweithiol, a rhaglenni difyr, gyda phrofiad trochi ac addysgiadol i ymwelwyr o bob oed – ac mae mynediad yn rhad ac am ddim!

Mae’r Amgueddfa hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, o 100 mlynedd ers sefydlu’r BBC i’r profiad VR, mae yna nifer o gyfleoedd i dreiddio’n ddyfnach i hanes Caerdydd, Cymru a thu hwnt.

Ymweld â'r amgueddfa.

4. Principality Stadium  

Mae Stadiwm Principality, sydd wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, yn lleoliad chwaraeon ac adloniant eiconig sy’n enwog am ei hawyrgylch drydanol a’i digwyddiadau o safon fyd-eang, ei chyfleusterau o’r radd flaenaf a’i hanes clodwiw ym myd chwaraeon.

P’un a ydych yn hoff o chwaraeon, yn hoff o gerddoriaeth, neu’n chwilio am brofiad trydanol, mae Stadiwm Principality yn lle gwych i ymweld ag ef. Ymgollwch yn awyrgylch y lleoliad hwn sydd o safon fyd-eang, bloeddiwch am eich hoff dimau, a byddwch yn rhan o'r atgofion bythgofiadwy sy'n cael eu creu o fewn ei waliau.

Rhagor o wybodaeth am y stadiwm.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event