Tynnu sylw at y diwydiant gemau

Mae Jeremy, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, wedi bod yn canolbwyntio ar y diwydiant gemau yn ystod ei interniaeth gyda Chaerdydd Creadigol. Fel rhan o'i sylw ar gemau, bu Jeremy yn cyfweld â'r cwmni animeiddiadau a gemau o Gaerdydd, Cloth Cat. Dyma ragor o wybodaeth amdanyn nhw a'u gwaith, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i fentro i'r diwydiant.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 August 2023

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch cwmni

Jon: Ddeng mlynedd yn ôl, sefydlwyd Cloth Cat, gan ddechrau drwy ganolbwyntio ar animeiddiad cyfres ac effeithiau gweledol ar gyfer rhaglenni plant. Gydag ychwanegiad Ben a Shane i'r tîm, fe ddechreuon ni weithio ar gemau gan ddefnyddio Adobe Flash (a oedd yn rhedeg ar borwr gwe) ond yn ddiweddarach fe wnaethom ehangu i sefydlu tîm rhyngweithiol a ddatblygodd gemau ar gyfer cleientiaid amrywiol, gan gynnwys rhai o'r gyfres animeiddio. Hefyd, roeddem yn awyddus i ymgymryd â phrosiectau rhyngweithiol amrywiol, gan gynnwys sioeau gêm a chynnwys ail sgrin a oedd yn caniatáu i wylwyr gymryd rhan wrth wylio'r teledu gartref. Fe wnaethom hefyd fentro i VR (dyfais wedi'i gosod ar y pen sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ymgolli mewn bydoedd rhithwir), ond fe'i defnyddiwyd yn bennaf fel offeryn mewnol. Fel tîm, rydym wedi parhau i arbrofi gyda thechnoleg newydd ac yn y pen draw wedi trawsnewid ein piblinell i ddefnyddio Unity (peiriant gêm 2D a 3D traws-lwyfan) oherwydd ei hyblygrwydd a'i allu i gyrraedd llwyfannau amrywiol. Rydym hefyd yn cefnogi datblygiad gemau HTML5 ac wedi dechrau defnyddio Unreal (peiriant gêm traws-lwyfan) yn y stiwdio.

Beth yw’r ffynonellau sy’n eich ysbrydoli?

Jon: Yn gyntaf oll, rydym yn hoffi adrodd straeon. Boed yn gemau, yn animeiddiadau neu’n ffilmiau, maent i gyd yn ymwneud ag adrodd straeon. Y gynulleidfa darged ar gyfer y rhan fwyaf o'n hanimeiddiadau yw plant rhwng 2 a 6 oed, felly rydym yn creu cynnwys sy'n addas ar gyfer oedrannau iau. Ar y cyfan, mae ein ffocws ar gemau ac animeiddiadau sy’n addas i deuluoedd, yn enwedig yn ystod y pandemig. Ein nod yw diddanu plant wrth eu haddysgu gyda gwybodaeth newydd trwy brofiadau ar y sgrîn, gan sicrhau eu bod yn parhau i ddangos diddordeb a dysgu. Mae addysg ac adloniant yn mynd law yn llaw mewn gemau ac animeiddiadau plant, a dyma ein cenhadaeth graidd, gan dargedu'r genhedlaeth nesaf.

Ben: O'u cymharu ag animeiddiadau, efallai y bydd gemau'n targedu cynulleidfa ychydig yn hŷn oherwydd eu cymhlethdod. Mae dyluniadau ein gemau yn anelu at fod yn hygyrch ond eto yn cynnwys haenau o gymhlethdod, felly wrth i chwaraewyr wneud cynnydd, mae’r gêm yn mynd yn fwy dwys. Y syniad yw annog rhieni a phlant i chwarae gyda'i gilydd, yn debyg i gemau Nintendo. Mae Nintendo yn rhagori ar greu ystod amrywiol o gemau, yn unol â dewis pob chwaraewr, ac mae ein hymagwedd at ddatblygu gemau yn cyd-fynd â'r athroniaeth honno.

Beth yw manteision gweithio yng Nghaerdydd yn eich barn chi?

Jon a Ben: I ni, mae llawer o fanteision. Mae gennym gymuned weithgar, perthynas dda gyda darlledwyr lleol a’r brifysgol, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. At hynny, mae costau byw yng Nghaerdydd yn is o gymharu â dinasoedd mwy fel Llundain. Fodd bynnag, gallai'r anfanteision gynnwys problemau teithio achlysurol, ac mae cleientiaid yn aml yn tueddu i ddewis cwmnïau o Lundain. Felly, mae angen i ni ddarparu mwy o fanteision a meithrin hyder yn ein cleientiaid ein bod yn gallu trin y gwaith. Mae gennym dîm animeiddio rhagorol, hanes cryf o gynnal prosiectau, a'r gallu i gymryd rhan mewn cynadleddau amrywiol a digwyddiadau i’r farchnad. Gallwn gystadlu â chewri yn y diwydiant, gan arddangos ein gwaith. Ar ben hynny, rydym yn hynod hyblyg a medrus wrth weithio o bell, sy’n cael ei dderbyn yn ehangach ar ôl y pandemig. Ac mae gan ein swyddfa ôl-troed bach, gan leihau ein hôl-troed carbon, gan fod gweithwyr yn teithio pan fo angen yn unig.

A oes unrhyw brosiectau cyffrous y mae eich cwmnïau'n gweithio arnynt ar hyn o bryd neu'n bwriadu eu gwneud yn fuan?

Ben: O ran gemau, rydym ar hyn o bryd yn datblygu gêm parti arcêd ac yn bwriadu ei rhyddhau o fewn y 12 mis nesaf. At hynny, mae gennym lawer o brosiectau eraill ar y gweill. Mae'n amser gweithgar a chreadigol iawn i ni, ym maes gemau ac animeiddio. Ar gyfer animeiddio, rydym yn gweithio ar rywbeth a fydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol yn gyntaf ar gyfer sioe ac yn bwriadu ehangu o'r fan honno. Mae gennym uchelgeisiau rhyngwladol bob amser ac rydym yn chwilio am gyfleoedd ehangach.

Jon: Mae'r diwydiant yn newid yn gyson, ac mae angen i ni barhau’n hyblyg. Roedd y dirwedd yn hollol wahanol ddeng mlynedd yn ôl pan ddechreuon ni, ac mae'n wahanol erbyn hyn. Bryd hynny, nid oedd gan Netflix lawer o ddylanwad. Felly, nawr mae'n rhaid i ni addasu ein gwaith a'n syniadau yn unol â hynny. Yn y diwydiant hwn, mae'n hanfodol bod yn ymatebol i'r gynulleidfa, gan ddarparu cynnwys sy'n addas iddyn nhw a'i wneud yn hygyrch.

A oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar gyfer y bobl hynny sydd eisiau cymryd rhan yn y diwydiant animeiddio neu gemau?

Ben: Os ydych chi newydd ddechrau dysgu, rhowch gynnig ar bopeth sydd ar gael cyn penderfynu ar arbenigedd. O ran y diwydiant gemau, gallwch ddysgu codio, ond mae yna hefyd agweddau fel cynhyrchu, sain, ysgrifennu sgript, a meysydd unigryw fel dod o hyd i artistiaid technegol ac animeiddwyr ar gyfer effeithiau arbennig. Felly, mynnwch brofiad a chanolbwyntio ar eich angerdd go iawn. At hynny, mae cyngor ar yrfaoedd weithiau'n gul iawn yn yr ysgol. Efallai nad ydyn nhw'n gwybod beth maen nhw wir eisiau’r oedran hynny, felly mae'n well cadw meddwl agored a pharhau i ddysgu a rhwydweithio. Mae'n well gan gyflogwyr wynebau cyfarwydd, felly ewch ati i gysylltu ac ymuno â digwyddiadau amrywiol, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb. Yn olaf, mae'n bwysig eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhithwir ac arddangos portffolio cryf i ddangos eich gwerth pan fyddwch yn gorffen eich astudiaethau.

Jon: Mae ein diwydiant gwaith a chreadigol yn seiliedig ar sgiliau. Nid yw dysgu am animeiddio am dair blynedd yn eich gwneud yn animeiddiwr ar unwaith, mae'n rhaid i chi wneud ymdrech. Mae gan rai pobl flynyddoedd o brofiad, ac efallai bod eraill newydd raddio. Nid ydym yn disgwyl i'r graddedigion hynny weithio mor effeithlon â'r rhai sydd â mwy o brofiad, ond rydym yn disgwyl iddynt fod â'r parodrwydd i barhau i ddysgu a byddant yn casglu’r profiadau hyn yn raddol. Mae'r diwydiant yn newid yn gyflym, ac mae llawer o adnoddau ar gael. Mae tiwtorialau YouTube yn eich galluogi i ddysgu sgiliau amrywiol. Mae Shane, ein rhaglennydd, yn defnyddio mathemateg a ddysgwyd yn yr ysgol wrth weithio ar raglennu. Mae'r sgiliau hyn yn dod yn ddefnyddiol flynyddoedd yn ddiweddarach; ni fyddwch byth yn rhoi'r gorau i ddysgu nac ailddefnyddio’r hyn rydych chi wedi'i ddysgu – maen nhw’n berthnasol o hyd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event