Yn cyflwyno Rheolwr newydd Caerdydd Creadigol

Dewch i gwrdd â Jess, Rheolwr newydd Caerdydd Creadigol, bydd yn gweithio i arwain a llywio ein gweithgareddau. Yma, mae Jess yn myfyrio ar ei hwythnosau cyntaf wrth y llyw, a’i gobeithion ar gyfer dyfodol Caerdydd Creadigol.

 

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 8 September 2022

Amdanaf fi

Jess in Cardiff

'Fe’m gwnaed ym Merthyr Tudful', rwyf wedi treulio'r pymtheg mlynedd diwethaf rhwng Cymru a Llundain, yn cyflawni prosiectau yn y sector diwylliant a threftadaeth a'r economi greadigol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu menter ac ehangu mynediad a chynwysoldeb. Mae hyn wedi cynnwys rolau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Y Llyfrgell Brydeinig, Yr Ysgol Bale Ganolog, Prifysgol De Cymru a Gŵyl y Gelli. Yn fwyaf diweddar, rydw i wedi treulio tair blynedd yn y Tîm Diwylliant a Diwydiannau Creadigol yn Awdurdod Llundain Fwyaf lle bûm yn darparu Ardaloedd Menter Creadigol Maer Llundain – y cyntaf o’u bath yn y Deyrnas Unedig, a menter flaenllaw i sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd sector creadigol Llundain yn y tymor hir trwy wreiddio diwylliant yng nghraidd cymunedau

Symudais yn rhannol yn ôl i Dde Cymru yn ystod dyddiau tywyll ‘ton gyntaf’ Covid ym mis Mawrth 2020, ac wrth i’r byd ddechrau ailagor yn raddol cefais fy hun yn edrych ar fy ‘nhref enedigol’ â llygaid ffres. P'un a oeddwn i'n mynd drwy'r stondinau yn Y Gorfforaeth neu'n taflu 'siapiau' amheus yn y Clwb yn ystod Gŵyl Swn; yn gwylio comedi gerddorol am eithafiaeth asgell dde yn Theatr y Sherman, yn rhyfeddu at gampau syfrdanol NoFit State yn yr awyr, neu hyd yn oed yn syml yn cydweithio yn Chapter, roeddwn i’n cael fy nharo’n barhaus gan ddwysedd, amrywiaeth a natur ddeinamig arlwy ddiwylliannol Caerdydd, sy’n cyflawni’n aruthrol fwy nag y byddech yn disgwyl.  Roedd yn amlwg i mi fod rhywbeth cyffrous yn digwydd - ac roeddwn i eisiau bod yn rhan ohono. 

Jess at Hay Festival

Adeiladu ar ein llwyddiant

O gyrraedd carreg filltir o 4000 o aelodau, i ennill ‘Gwobr Ddinesig Bywyd Caerdydd’, oedd yn cael ei chynnig am y tro cyntaf, i osod y sylfeini ar gyfer mentrau trawsnewidiol fel Clwstwr a Media Cymru, mae Caerdydd Creadigol wedi cyflawni gwaith gwirioneddol syfrdanol yn ystod y 7 mlynedd diwethaf! Mae wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio hunaniaeth gyfunol sector creadigol Caerdydd, gan greu naratif diwylliannol cymhellol ar gyfer y ddinas fel ei bod yn dod yn rhwydwaith cyfannol, ymgysylltiol a rhyngddisgyblaethol sydd â budd amlwg ar lawr gwlad i weithlu creadigol y ddinas. Mae’n fraint eich bod bellach yn ymddiried ynof fi i adeiladu ar y llwyddiant sylweddol hwn, ac alla i ddim aros i ‘fwrw iddi’. 

Nid yw’r sector creadigol byth yn sefyll yn ei unfan, ac felly mae angen i’r mecanweithiau sy’n ei gynnal fod yn esblygu’n barhaus, gan ymateb i gyd-destunau cyfnewidiol a bachu ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.

Yn ystod y misoedd nesaf byddaf yn gweithio gyda rhanddeiliaid Caerdydd Creadigol, tîm gwych Prifysgol Caerdydd a hefyd – wrth gwrs – gyda chi, ein haelodau, i gasglu safbwyntiau, gwybodaeth ac adborth. Bydd hyn i gyd yn helpu i lunio map newydd ar gyfer dyfodol Caerdydd Creadigol. Un sy'n ymateb i wersi creulon y pandemig ac yn meithrin ein cymuned greadigol i ddod mor llewyrchus, mor gydweithredol ac mor gydnerth ag y gall fod.

Uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Mae gallu ein diwydiannau creadigol i sbarduno twf economaidd a chreu swyddi yn enwog, ac mae angen manteisio ar y potensial hwn, a hynny’n gwbl briodol, wrth inni ailadeiladu wedi effaith y ddwy flynedd ddiwethaf ac wynebu’r cyfnod heriol sydd o’n blaenau. Ond ochr yn ochr â hyn, mae'r sector hefyd yn rhoi cynifer o'n hatgofion gorau i ni, ein munudau o bleser, a'n llawenydd a'n cysuron bach gwerthfawr. Y wisg sydd bob amser yn gwneud i chi gerdded ychydig yn dalach, y gig lle buoch chi'n dawnsio drwy'r nos gyda'ch ffrindiau gorau, y gân sydd bob amser yn gwneud ichi feddwl am berson arbennig, neu’r sioe ar Netflix rydych chi'n cael pyliau o’i gwylio pan fyddwch chi teimlo'n isel – dechreuodd y rhain y gyd eu bywyd fel gweledigaeth artist neu wneuthurwr mewn stiwdio. Er gwaethaf y dinistr a achoswyd gan y pandemig, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf hefyd wedi dod â chydnabyddiaeth o’r newydd o ran sut rydym ni’n dibynnu ar y sector creadigol i’n cysylltu, i’n cysuro, i adlewyrchu profiadau a rennir ac i greu gofodau – rhai ffisegol a dychmygol – lle gallwn brosesu ysgogiadau a mynegi ein hymatebion emosiynol

Yn y ‘normal newydd’ hwn y byddwn nawr yn bwrw ymlaen â Chaerdydd Creadigol, gan adeiladu ar weledigaeth wreiddiol y rhwydwaith mewn ffyrdd ymarferol i helpu i sicrhau bod gan weithredwyr a gwneuthurwyr, meddylwyr a breuddwydwyr gwych Caerdydd fynediad at y bobl, y sgiliau, yr wybodaeth a’r lleoedd y bydd eu hangen arnynt i wireddu eu huchelgeisiau creadigol. Ac yn ei dro, archwilio sut gall y llanw cynyddol hwn ychwanegu gwerth ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ysgogi cydweithio ystyrlon ac arloesedd a helpu i gyflawni sector agored a gwirioneddol agored sy’n adlewyrchu ein cymunedau ac yn meithrin y ffrwd o ddoniau a fydd yn creu’r genhedlaeth nesaf o lunwyr newid diwylliannol.

Dewch i ddweud 'Helo'

Yn ystod yr wythnosau nesaf rwy'n bwriadu bod 'allan' mewn mannau cydweithio, caffis a lleoliadau ar draws y ddinas, gan siarad â phobl greadigol 'ar y ffas lo' i ddarganfod sut gall Caerdydd Creadigol eu cefnogi’n well fyth yn eu gwaith.  Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol i gael gwybod ble rydyn ni, a galwch heibio am sgwrs os gallwch chi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi, a ni fydd yn talu am y coffi.

Jess at British Library

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event