Ar leoliad gwaith gyda Chaerdydd Creadigol: Cynhadledd Gwella’r Gweithle

Ar 28 a 29 Mawrth, fe aeth John Evans, myfyriwr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd sydd ar leoliad gyda Chaerdydd Creadigol, i Gynhadledd Gwella'r Gweithle Prifysgol De Cymru a Media Cymru yng Nghaerdydd. Yn yr erthygl hon, mae John yn adlewyrchu ar ei brofiad yn y digwyddiad ac yn dewis rhai o uchafbwyntiau’r gynhadledd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 31 March 2023

Llun o John Evans yn y Gynhadledd
John Evans

Gall mynychu cynhadledd fod yn brofiad cyffrous a diddorol, yn enwedig pan fydd yn ymwneud â phynciau sy'n bwysig i'r sector ac i'ch datblygiad proffesiynol. Yn ddiweddar, cefais y fraint o fynychu cynhadledd gwella'r gweithle a oedd yn cael ei gynnal dros ddeuddydd ar gampws Prifysgol De Cymru Caerdydd, mewn partneriaeth â Media Cymru. Nod y gynhadledd oedd i wella ffyrdd y diwydiannau creadigol o weithio yng Nghymru.

Daeth y gynhadledd â grŵp amrywiol o randdeiliaid ynghyd, gan gynnwys arweinwyr diwydiant, llunwyr polisi, ac arbenigwyr yn y maes, i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector sgrin yng Nghymru ac archwilio ffyrdd o wella ei berfformiad a’i allu i gystadlu. Dros y ddau ddiwrnod, cefais fewnwelediadau gwerthfawr i'r tueddiadau diweddaraf, arferion gorau, a datblygiadau arloesol yn y diwydiant, a chefais gyfle i gysylltu â gweithwyr proffesiynol sy'n rhannu'r angerdd dros greu newid cadarnhaol yn y sector sgrin.

Ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd, croesawyd y mynychwyr gan Iwan England (Pennaeth Di-Sgript yn S4C) a chyflwynwyd canlyniadau allweddol Arolwg Gweithlu Sgrin gyntaf Cymru gan Dr Helen Davies (Cymrawd Ymchwil Screen Skills Innovation- Media Cymru- ym Mhrifysgol De Cymru). Rhoddodd yr arolwg fewnwelediad i’r hyn sy’n gweithio’n dda yn y sector sgrin yng Nghymru, yn ogystal â meysydd sydd angen eu gwella. Un o’r pethau allweddol a ddeilliodd o’r arolwg oedd nad yw gweithwyr llawrydd yn ymwybodol o’r cyfleoedd hyfforddi a sut i gael mynediad atynt a’r arian sydd ar gael. Dyma'r cyflwyniad yma yn arwain y ffordd am weddill y diwrnod, gyda phaneli a thrafodaethau ar eu hanghenion a darparwyr hyfforddiant a chyllidwyr yn rhannu eu rhaglenni hyfforddi a mentrau i gefnogi datblygiad gyrfa yn y sector. Daeth y diwrnod i ben gyda chyfle i rwydweithio i’r mynychwyr gysylltu â’i gilydd a thrafod y pynciau a gyflwynwyd trwy gydol y dydd.

Prifysgol De Cymru

Agorwyd ail ddiwrnod y gynhadledd gwella'r gweithle gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Gerwyn Evans a fideo gan Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon. Yna cafodd y gwesteion prif sgwrs ar sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnewch gan Mel Rodrigues (Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Gritty Talent) “Peidiwch â sefyll y tu ôl i ni, sefwch o'n blaenau.” yn ogystal â chyfres o baneli eang sy’n canolbwyntio ar y themâu hyn ac arferion gorau arloesol a dulliau blaengar o wella diwylliannau gwaith yn y sector sgrin. Roedd y paneli yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau pwysig gan gynnwys:

  • Gweithio hyblyg – Yn y sector sgrin, lle mae oriau hir ac afreolaidd yn aml yn arferol, gall trefniadau gweithio hyblyg helpu i ddenu a chadw talent a gwella boddhad cyffredinol mewn swydd.

  • Mynd i’r afael a bwlio – Amlygwyd pa mor gyffredin yw’r materion hyn yn y sector sgrin yn ogystal â phwysigrwydd cymryd camau i fynd i’r afael â nhw. Trwy greu amgylchedd gwaith diogel a pharchus, gall cyflogwyr wella morâl a chynhyrchiant gweithwyr. Dywedodd Delyth Thomas, Cyd-sylfaenydd Call it!, wrthym am eu app sy’n anelu at fonitro ac atal bwlio, aflonyddu a phob math o wahaniaethu yn y gweithle.

  • Cynaliadwyedd – Bu panel yn trafod yr angen i’r sector sgrin leihau ei effaith amgylcheddol a mabwysiadu arferion mwy cynaliadwy. Mae hyn yn dod yn fwy pwysig wrth i fuddsoddwyr fynnu arferion mwy amgylcheddol gan fusnesau.

  • Blaenoriaethu llesiant yn hytrach na thwf economaidd – Trafodwyd pwysigrwydd creu diwylliant sy’n gwerthfawrogi lles gweithwyr yn dros bopeth arall. Trwy flaenoriaethu lles, gall cyflogwyr cadw gweithwyr yn well, lleihau absenoldeb, a chynyddu boddhad cyffredinol mewn swydd.

  • Gwneud y sector yn fwy cynhwysol – Bu’r panel hwn, a oedd yn cynnwys yr actor Justin Melluish, yn trafod ffyrdd o wneud y sector sgrin yn fwy cynhwysol ac amrywiol, yn enwedig o ran anableddau a sut y gall stiwdios ddarparu ar gyfer pawb. Drwy hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, gall cyflogwyr wella creadigrwydd ac arloesedd eu timau a chreu gweithle mwy croesawgar a chefnogol i bob gweithiwr. 

Llun o drafodaeth panel yn y digwyddiad

Darparodd y trafodaethau hyn fewnwelediadau gwerthfawr a strategaethau gweithredu y gallai mynychwyr fynd â nhw yn ôl i'w sefydliadau i roi newid cadarnhaol ar waith. Cafodd y gwesteion gyfle hefyd i rwydweithio â’i gilydd drwy’r amser a chymryd rhan mewn trafodaethau 1-i-1 gyda chynrychiolwyr o ddarparwyr hyfforddiant a sefydliadau sgrin. Yn gyffredinol, roedd yr ail ddiwrnod a’r gynhadledd yn ei chyfanrwydd yn brofiad addysgiadol a deniadol a adawodd i mi a mynychwyr eraill cael ddealltwriaeth well o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector sgrin yng Nghymru a sut i greu diwylliant gweithio mwy cadarnhaol a chynhwysol.

Trefnwyd y gynhadledd hon gan Brifysgol De Cymru fel rhan o'u prosiect Media Cymru, Sgiliau a Hyfforddiant. Gallwch ddarganfod mwy am amcanion y prosiect hwn ar wefan Media Cymru. Bydd holl sesiynau ar gael i’w gweld ar y dudalen hon yn yr wythnosau nesaf.

Ysgrifennwyd yr erthygl gan John Evans

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event