Caerdydd Creadigol: Crynodeb o fis Hydref

Mae wedi bod yn fis prysur i Dîm Caerdydd Creadigol! Darllenwch fwy am beth mae Rheolwr Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney, a’r Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Carys Bradley-Roberts, wedi bod yn brysur yn gwneud yn ystod mis Hydref.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 7 November 2022

Carys and Jess selfie

Jess Mahoney, Rheolwr Caerdydd Creadigol

Mis Hydref yw fy ail fis llawn yng Nghaerdydd Creadigol, a dyna ichi fis llawn digwyddiadau. Dechreuodd y mis mewn ffordd arbennig o chwaethus, drwy fynd i Flaenau Ffestiniog (ac i'r dyfodol) ar gyfer diweddglo mawreddog 'GALWAD' – sioe awyr agored amlieithog ac uchelgeisiol – yn rhan o UNBOXED. Dyma gamp logistaidd a oedd yn cyfuno arddangosfeydd golau trawiadol â brys gwleidyddol y dydd, heb sôn am daith i fyny chwarel lechi yn y tywyllwch – am brofiad! Ac nid yw pethau wedi tawelu – rydyn ni wedi mwynhau’r Gwobrau Technoleg Ariannol (Fintech), Parti Pen-blwydd IBI yn Arcêd Morgan, 'Driving Change' yn Roundhouse, taith o amgylch y BBC yng Nghaerdydd, gŵyl BEYOND, gŵyl Sŵn, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, gŵyl Llais a lansiad Media Cymru, rhaglen ymchwil a datblygu newydd Prifysgol Caerdydd gwerth £50 miliwn i gefnogi twf cynaliadwy yn y sector sgrin. Wow – rwy'n credu y bydda i’n gorfod gorwedd am eiliad!

Peth gwych oedd gallu gwneud cynifer o gysylltiadau newydd, ac mae'r holl bobl wych sy'n gweithio yn sector creadigol Caerdydd wedi rhoi cymaint o groeso wrth imi ymgartrefu'n iawn yn y swydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gwaith gwych y gallwn ei wneud gyda'n gilydd yn y dyfodol. Ond am y tro, wrth inni edrych ymlaen tuag at fis Tachwedd ac at oleuadau mis Rhagfyr a thu hwnt, rydyn ni hefyd yn falch o allu rhyddhau manylion cychwynnol Parti Nadolig Caerdydd Creadigol a gynhelir ddydd Iau 1 Rhagfyr yng nghlwb The Moon. Mae gennym nifer o ddigwyddiadau annisgwyl ar y gweill felly cadwch lygad barcud ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i wybod rhagor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mawr obeithiwn y gallwch chi ymuno â ni.

Jess at the BBC Offices
Jess yn stiwdios y BBC yng Nghaerdydd

Carys Bradley-Roberts, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae mis Hydref wedi bod yn fis hynod o gyffrous inni yng Nghaerdydd Creadigol – diolch i'r gymuned greadigol! Rydyn ni wedi bod mewn cynifer o ddigwyddiadau creadigol ac wedi cwrdd â phobl greadigol ysbrydoledig o bob cwr o'r ddinas. Ar ben hynny, rydyn ni wedi bod yn brysur yn cynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y misoedd nesaf hyn – rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu rhagor o fanylion â chi.

Mae fy uchafbwyntiau arbennig yn cynnwys gwylio cynhyrchiad dwyieithog Theatr y Sherman o Freuddwyd Nos Ŵyl Ifan / A Midsummer Night's Dream, lle bu'r Tylwyth Teg yn siarad yn Gymraeg. Dyna chi brofiad gwych a hudol. Uchafbwynt arall oedd mynychu lansiad Canllaw Gigiau Minty - am gyffrous! Braint arbennig hefyd oedd cael bod yn rhan o’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni. Mae’r Wobr yn rhan o ŵyl Llais, lle cawson ni’r cyfle i gydnabod 15 o artistiaid gwych a gyrhaeddodd restr fer y wobr yn ogystal â mwynhau perfformiadau gan Buzzard Buzzard Buzzard, Dead Method, Aderyn, Sage Todz ac enillwyr gwobr 2022, sef Adwaith. Cyn y perfformiadau, buon ni’n siarad â rhai artistiaid o Gaerdydd a enwebwyd ar gyfer y wobr, gan ddewis ein huchafbwyntiau o raglen gŵyl Llais. Drwy gydol y mis, rydyn ni wedi parhau i amlygu a chydnabod pobl greadigol Caerdydd yn ein cyfres Cam Creadigol Cyntaf, yng nghwmni’r pensaer Amanda Spence, yn ogystal â'n cyfres Pum munud gyda ..., yng nghwmni’r gwneuthurwr ffilmiau Charlie Grayson. Ar ben hyn, rydyn ni wedi bod yn anfon ein cylchlythyrau bob pythefnos i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y swyddi a'r cyfleoedd diweddaraf yn y ddinas. Mynnwch gip ar ein cylchlythyr diweddaraf.

Ymlaen at fis Tachwedd!

Carys at Iris Prize
Carys yn Ngŵyl Ffilm Gwobr Iris

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event