Cam Creadigol Cyntaf: Cyhoeddi fy llyfr cyntaf

Yn y rhifyn hwn o Cam Creadigol Cyntaf, cawsom sgwrs â Sophie Buchaillard, awdur a phodlediwr sydd wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf This Is Not Who We Are gyda Seren Books yn ddiweddar. Yn ogystal â'i nofel gyntaf, mae Sophie yn un o gyd-gyflwynwyr y podlediad llenyddol Cymreig Writers on Reading. Yn y cyfweliad hwn, mae Sophie yn siarad am ei phroses o gyhoeddi nofel gyntaf ac mae'n rhannu awgrymiadau ar gyfer y rhai sy'n awyddus i gyhoeddi eu gwaith eu hunain.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 22 August 2022

A headshot of Sophie

Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

Dwi wastad wedi ysgrifennu, roeddwn yn treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn darllen llyfrau ac yn creu straeon pan oeddwn yn blentyn. O ganlyniad i sawl ffactor, fe wnes i astudio gwyddor wleidyddol, sef yr hyn a ddaeth â fi i'r DU. Ar ddiwedd fy ngradd yn Ffrainc, roedd gennyf le Erasmus i ddod i Gaerdydd yn fyfyriwr cyfnewid; Ro'n i fod yma am flwyddyn, ond dwi erioed wedi gadael.

Ar ôl fy ngradd, cefais waith yn y byd academaidd yn gyntaf, yna ym maes ymgyrchu, ond yn fy amser preifat ymunais â grŵp awduron a gwneud llawer o ysgrifennu. Roedd y grŵp roeddwn i ynddo yn cynnwys nifer o awduron oedd yn hŷn na fi. Roeddwn i'n iau, yn llai hyderus, ac yn cael trafferth derbyn adborth ar y pryd. Ro'n i wir yn ei gymryd at fy nghalon, ac yn cymryd adborth ynghylch fy ngwaith fel sylwadau amdana i fel unigolyn, gan ddrysu’r ddau beth. O ganlyniad, collais fy ffordd gydag ysgrifennu am beth amser. Wedyn ddes i'n fam a dim ond ddiweddar dwi wedi dod yn ôl at ysgrifennu. Yn 2019, roedd fy llysferched o dan lawer o bwysau wrth ddewis eu pynciau Safon Uwch a TGAU, ac roedd rhan ohonof i eisiau dangos iddyn nhw nad yw hi fyth yn rhy hwyr i newid eich trywydd. Roedd yr amseru yn teimlo'n iawn felly fe wnes i roi'r gorau i'm swydd a dechrau MA Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn i eisiau i'r merched weld nad ydi dewis pwnc a sylweddoli nad ydyw’n taro deuddeg yn ddiwedd y byd, gallwch wneud dewisiadau gwahanol a newid eich llwybr yn nes ymlaen.

Ar gyfer yr MA, roedd rhaid i mi ysgrifennu portffolio, a ddatblygodd i fod yn fy nofel. Pan wnes i raddio, ces i gynnig lle i wneud PhD, felly dyna dwi'n 'neud nawr, ochr yn ochr â bod yn awdur proffesiynol.

Sophie at a book launch
Sophie mewn lansiad ar gyfer ei llyfr newydd

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Mae gen i ddau, yn gyntaf fe ges i stori fer wedi'i chyhoeddi ym mis Mai gyda Parthian ac yn fuan wedyn, fe gyhoeddais i nofel gyda Seren o'r enw This Is Not Who We Are. Yn 44 oed, dwi'n awdures gyhoeddedig am y tro cyntaf. Mae wedi bod yn ddiddorol deall y broses o gael fy ngwaith wedi’i gyhoeddi a sut mae'r diwydiant yn gweithio. Nawr, rwy'n mentora awduron sy'n dod i'r amlwg.

Er mwyn cyhoeddi fy nofel, dechreuais drwy holi am asiant, ond gwnes i hynny yn ystod Covid pan nad oedd asiantau yn chwilio am awduron newydd. Yna edrychais am gyhoeddwyr annibynnol ac anfonais fy llyfr at Seren, er nad oedden nhw'n derbyn ceisiadau. Yn ffodus, roedden nhw'n ei hoffi, ac fe wnes i arwyddo'r cytundeb flwyddyn yn ôl a daeth y llyfr allan ym mis Mehefin.

Beth oedd yr her fwyaf?

Doedd yr ysgrifennu ei hun ddim yn her, yn bennaf oherwydd fy mod i'n gwneud yr MA ac wedi sicrhau amser i ysgrifennu a chymuned barod o bobl i ddarllen fy ngwaith a rhoi adborth i mi. Roedd bod yn amyneddgar yn her, mae cyhoeddi yn cymryd amser ac mae'n bwysig ymollwng ac ymddiried yn y broses. Mae hefyd yn bwysig cofio blaenoriaethu amser gyda'r teulu a gwneud pethau y tu allan i ysgrifennu, golygu a hyrwyddo eich llyfr.

Allwch chi rannu awgrymiadau i eraill sydd am gyhoeddi eu gwaith?

1) Peidiwch byth â thanbrisio pŵer adborth da - os ydych chi'n cael trafferth derbyn adborth, cofiwch nad ydyn nhw'n eich beirniadu chi fel person. Dylid cymryd adborth bob amser fel rhodd, hyd yn oed os nad yw'n braf ei glywed.

2) Ewch ati i greu cymuned o’ch cwmpas eich hun- er bod ysgrifennu yn cael ei weld fel gweithgaredd annibynnol, mae angen cymuned o bobl sy'n fodlon darllen eich gwaith, bod yno i chi, rhoi adborth i chi a'ch helpu drwy’r amseroedd pan fyddwch yn cael eich gwrthod.

3) Cofiwch ddarllen, darllen, darllen – byddwn i'n dweud bod angen i'r balans fod yn 80% darllen, 20% ysgrifennu. Mae ysgrifennu’n dod o ddarllen. Mae'n rhan o'r broses ysgrifennu, hyd yn oed os nad yw'n teimlo fel eich bod chi'n gweithio ar y pryd.

Fyddech chi'n mynd ati'n wahanol pe baech chi'n dechrau o'r dechrau?

Hoffwn ddweud y byddwn i’n dechrau ysgrifennu yn gynharach ond, i mi, nawr oedd yr amser iawn gan fy mod wedi magu digon o hyder gydag oedran i dderbyn unrhyw gnoc neu sefyllfa o gael fy ngwrthod. Dwi ddim yn meddwl y gallwn i fod wedi delio â hynny yn fy 20au. Y tro nesaf, byddwn i'n trio bod yn fwy amyneddgar, jyst derbyn bod pethau'n mynd i gymryd amser. Fe achosais lawer o nosweithiau di-gwsg i mi fy hun yn poeni pan ddylwn i fod wedi gadael fynd ac ymddiried y byddai pethau’n digwydd yn eu hamser.

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Rwyf wedi byw yng Nghaerdydd ers 20 mlynedd bellach ac fe ddewisais Brifysgol Caerdydd yn benodol oherwydd roeddwn i eisiau gweithio gyda'r Athro Richard Gwyn oedd yn goruchwylio fy nghwrs meistr ac sydd bellach yn goruchwylio'r PhD. Trwy ysgrifennu a chyd-gyflwyno Writers on Readingy podlediad dwi wedi cwrdd â chymuned mor groesawgar o awduron a does unman arall y byddai'n well gen i fod. Mae pobl wedi bod yn rhyfeddol o gefnogol, yn garedig ac yn hael gyda'u hamser. Mae cymuned greadigol Caerdydd fel teulu mawr cynnes.

Rhagor o wybodaeth am This Is Not Who We Are.

Cam Creadigol Cyntaf

Hoffech chi gael eich cynnwys mewn erthygl? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf i'w rannu gyda'n cymuned.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event