Cam Creadigol Cyntaf: Dechrau busnes creadigol

Yn y rhifyn hwn o Camau Creadigol Cyntaf, buom yn siarad ag Amanda Spence, pensaer o Gaerdydd a lansiodd ei busnes ei hun, Amanda Spence Architecture, yn ddiweddar. Yn y cyfweliad hwn, mae Amanda yn siarad am y broses o ddechrau ei busnes ei hun ac yn rhannu awgrymiadau a chyngor i eraill sy'n ystyried gwneud yr un peth.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 13 October 2022

Amanda headshot

Dywedwch wrthym amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

Rwy'n bensaer yng Nghaerdydd, lle symudais i astudio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd. Dewisais bensaernïaeth gan fy mod bob amser yn hoff o bynciau celf a dylunio a gwneud pethau, ond hefyd yn hoffi pynciau gwyddonol – yn y bôn, unrhyw beth a oedd yn cynnwys datrys problemau creadigol. Wnes i ddim penderfynu ar bensaernïaeth nes i mi astudio pynciau Safon Uwch a dywedodd fy Athro Celf wrthyf fod y pwnc yn gweddu i mi, felly es i amdani. Roedd yn addas i mi wedi’r cyfan, a dyma fi.

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Fy Ngham Creadigol Cyntaf yw dechrau practis pensaernïaeth yn 2018 gyda fy ffrind a’m cyn-gydweithiwr, Rhian Thomas.

Pan fyddwch yn gweithio i rywun arall neu bractis mwy gyda llawer o bwysau masnachol, nid ydych bob amser yn cael archwilio'r pethau sydd o ddiddordeb gwirioneddol i chi ac mae'n rhaid i chi weithio o fewn eu strwythurau a'u blaenoriaethau. Roeddem am sefydlu ar ein pennau ein hunain i archwilio ein diddordebau ein hunain, gwneud y pethau a oedd yn bwysig i ni a gweithio yn y ffordd oedd fwyaf addas i ni.

Beth oedd yr her fwyaf?

Rwy'n credu bod dau beth. Un oedd yr ochr ariannol a gadael cyflog a gwneud digon o arian, yn enwedig ar y dechrau oherwydd nad oedd gennym gleientiaid presennol na chynilion i ddisgyn yn ôl arnynt, felly roedd hynny'n her ac yn risg.

Peth arall oedd o ran profiad – roedd fel pwyso botwm ailosod. Er bod gennym lawer o brofiad yn rhedeg prosiectau mawr ar draws gwahanol sectorau, oherwydd bod y practis yn newydd roedd yn anodd denu'r math hwnnw o waith eto neu ennill y mathau hynny o brosiectau, felly aethom yn ôl i wneud pethau llai. Ar y dechrau, roedd yn anodd cael unrhyw beth heblaw prosiectau domestig ac ailwampio, nad oeddem wedi paratoi ar eu cyfer mewn gwirionedd. Roeddem yn cymryd arnom y byddem yn gallu parhau i wneud y prosiectau ar raddfa fwy yr oeddem wedi arfer â nhw, ond nid oedd y byd yn ei weld felly. Roedd y byd yn edrych arnom fel practis newydd heb unrhyw brofiad ac os oeddem yn gwneud cais am brosiect, byddent yn gofyn am enghreifftiau o bethau yr oedd y practis wedi'u gwneud sy'n debyg, ac fe gymerodd amser hir i ni gael y math hwnnw o waith.

Allwch chi rannu awgrymiadau i eraill sydd eisiau dechrau eu busnes creadigol eu hunain?

  1. Byddwch yn barod i fentro a pheidiwch â bod ofn methu. Gallech eistedd yno a meddwl am y peth a pheidio byth â rhoi cynnig arni, ond os na fyddwch yn ceisio, ni fyddwch byth yn gwybod.
  2. Byddwch yn barod i dorchi llewys. Mae angen i chi fod yn barod i ddysgu pethau nad oeddech chi'n meddwl bod eu hangen pan oeddech chi'n gweithio i rywun arall, ac sydd ychydig y tu allan i'r hyn y gwnaethoch chi hyfforddi i'w wneud.
  3. Cynlluniwch bethau a meddwl yn ofalus pam rydych chi am ddechrau busnes a'r hyn rydych chi am ei gyflawni na allech chi ei gyflawni pe byddech chi'n gweithio i rywun arall. Mae'n waith caled, felly mae angen i'r pwrpas a'r angerdd eich gyrru.

Fyddech chi'n mynd ati'n wahanol pe baech chi'n dechrau o'r dechrau?

Gwnaethom ddysgu cymaint, fel na fyddwn i'n gwneud pethau'n wahanol mae'n debyg. Ar ôl bod trwy'r profiad gydag Alt Architecture a dechrau fy musnes fy hun eto, mae'n gyflymach ac rwy'n deall y broses ychydig yn well.

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Gwnaethom sefydlu yng Nghaerdydd oherwydd ei fod yn lle gwych i fyw; mae cymaint o bethau diwylliannol a chreadigol yn digwydd. Rydym wedi gweld y rhwydweithiau creadigol, fel Caerdydd Creadigol, mor ddefnyddiol i ymgysylltu â nhw a gwnaethom ymuno â'r man cydweithio Rabble tua blwyddyn ar ôl sefydlu’r busnes. Mae wedi bod yn wych cael cymuned o berchnogion busnes eraill a gweithwyr llawrydd yn Rabble, llawer ohonyn nhw mewn busnesau creadigol hefyd.

Eich cynnwys mewn erthygl Cam Creadigol Cyntaf

Hoffech chi gael eich cynnwys mewn erthygl? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf (profiad mewn diwydiant am y tro cyntaf) i'w rannu gyda'n cymuned.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event