Cam Creadigol Cyntaf: Gwneud fy rhaglen ddogfen fawr gyntaf i'w darlledu

Ar gyfer Cam Creadigol Cyntaf y mis hwn, buom yn siarad â’r cyfarwyddwr a’r awdur Clare Sturges. Yn y cyfweliad hwn, mae Clare yn rhannu ei phrofiad o wneud ei rhaglen ddogfen ddarlledu fawr gyntaf ac yn rhannu awgrymiadau i eraill sydd â diddordeb mewn gwneud rhaglenni dogfen.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 13 March 2023

Creative firsts- Clare Sturges

Soniwch amdanoch hun a'ch cefndir creadigol

Mae fy ffilmiau'n cyfleu straeon dynol pwerus trwy ddelweddau sinematig, manylion atgofus a sylw manwl i grefft ffilm. Yn 2015, fi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Torri Drwodd BAFTA Cymru am fy rhaglen ddogfen Sexwork, Love & Mr Right, y gwnes i ei chynhyrchu a'i chyfarwyddo.  

Yn ogystal â ffilm ddogfen Apple TV+/BBC Two, The Boy, The Mole, The Fox, The Horse and me, rwyf i wedi cyfarwyddo ffilm fer naratif a enwebwyd ar gyfer BAFTA Cymru, The Arborist (sydd ar gael ar BBC iPlayer), rhaglenni dogfen ffurf hir a ffurf fer sydd wedi ennill sawl gwobr, gweithiau theatr byr a ffilmiau ar gyfer elusennau gan gynnwys Maggie's, Age UK a MENCAP. Ar hyn o bryd rwy'n cysgodi awdur NYC Andrea Chalupa (Mr Jones) trwy ddatblygu sgriptiau ar ei ffilm nodwedd annibynnol On The Record am yr ymgyrchydd gwrth-ffasgaidd o'r 1930au, Dorothy Thompson. Gallwch ddarganfod mwy am fy ngwaith ar fy ngwefan.

So, what’s your Creative First? Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Fy ngham creadigol cyntaf yw cyfarwyddo dogfen awr o hyd ar gyfer dau blatfform mawr. ‘Charlie Mackey: The Boy, The Mole, The Fox, The Horse and me’ yw'r comisiwn ffurf hir cyntaf i mi gael fy nghyflogi i'w gyfarwyddo - yn yr achos hwn i Apple TV+ a BBC Two/iPlayer. Mae'n bortread dogfennol agosatoch o'r artist a'r darlunydd o Brydain Charlie Mackesy. Cynhyrchwyd dau fersiwn o'r ffilm: un i Apple TV+ a fersiwn gwahanol i'r BBC.


Beth oedd yr her fwyaf?

Yr her fwyaf i mi oedd newid mawr yng nghyfeiriad creadigol y prosiect pan oeddem ni wrthi'n ffilmio. Y cynllun gwreiddiol oedd saethu dogfen nodwedd 90' i'w rhyddhau'n rhyngwladol, gyda fersiwn 60' byrrach i'w ddarlledu yn y DU. Cytunodd y cynhyrchwyr a mi mai'r nod fyddai adrodd hanes bywyd, celf a llyfr llwyddiannus Charlie yn ei eiriau ei hun yn bennaf, mewn dull anhraddodiadol, strwythuredig arsylwadol heb gyfweliadau uniongyrchol na throsleisio. 

Mae rhaglenni terfynol Charlie Mackesy'n cyfleu elfennau o arddull a synwyrusrwydd sy'n driw i fy ngweledigaeth wreiddiol; ac eraill sydd ddim mor driw. Er nad oedd modd i ni wireddu fy ngweledigaeth wreiddiol fel y’i bwriadwyd, fe wnes i'n siŵr fod pawb yn deall amcanion y diwrnodau saethu a'r edrychiad a’r teimlad creadigol cyffredinol, ynghyd â synwyrusrwydd ysgafn y ffilmiau. Gweithiais i'n galed i feddwl am lawer o ddatrysiadau creadigol ynghyd â chynlluniau B, C a D felly roedd opsiynau ar gael os oedd mynediad at y prif bwnc yn anodd. Ymhlith y rhinweddau yr oedd angen i mi eu defnyddio oedd amynedd, dycnwch, hyblygrwydd ac ymatebolrwydd i broblemau a heriau munud olaf; roedd llawer o'r rhain y tu hwnt i'm rheolaeth i ond fe gawson nhw effaith fawr ar fy ngwaith fel cyfarwyddwr a llais creadigol arweiniol y ffilm.

Yn y pen draw, mae gan y ffilmiau terfynol donyddiaeth, edrychiad a theimlad cyson sy'n adlewyrchu fy arddull cyfarwyddo. Mae yna ansawdd ysgafn, treiddgar sydd, gobeithio, yn adleisio'r synwyrusrwydd emosiynol sydd i'w weld ym mhob un o fy ffilmiau - ymdeimlad o faint rwy'n gwerthfawrogi ein bywydau emosiynol a'n dynoliaeth - a sylw i fanylion sydd, gobeithio, yn creu stori ddifyr, fel eich bod chi'n teimlo eich bod mewn dwylo diogel. Rwy'n gobeithio y bydd y ffilmiau'n cynnig profiad teledu araf cynnes, teimladwy, heddychlon a hamddenol i gynulleidfaoedd yn y DU, ledled y byd ac mewn gwyliau — man pleserus i wylio, gwrando a myfyrio, gan ganiatáu i ddelweddau, llais a sain hyfryd lifo drostynt. 

Allwch chi rannu awgrymiadau i eraill a hoffai wneud rhaglenni dogfen? 

  1. Byddwch yn glir ynghylch pam fod gennych chi ddiddordeb mewn stori neu bwnc penodol a beth yn eich barn chi yw gwerth ei rhannu ag eraill trwy gyfrwng rhaglen ddogfen.
     
  2. Mwynhewch agweddau creadigol crefft ffilm a thynnwch gryfder o'r partneriaid creadigol allweddol rydych chi'n gweithio gyda nhw.
     
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod chi, eich cynhyrchwyr a chyllidwyr y ffilm i gyd yn glir ac yn cytuno eich bod yn gwneud yr un ffilm. Gall pethau fynd yn flêr iawn fel arall.

Image from Mackesy documentary

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Rwyf i wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd ers 2009, ac mae'n lle gwych i fod yn rhan o'r diwydiannau creadigol. Mae yna nifer o fannau cydweithio croesawgar lle gallwch gwrdd â phobl greadigol o'r un anian (er enghraifft, rwy'n gweithio o Rabble Studio ym Mae Caerdydd) a rhannu straeon o reng flaen bywyd llawrydd. Er bod rhaglen Mackesy wedi'i chynhyrchu yn Llundain gyda'r ôl-gynhyrchu yn Roundtable yn Soho, fe wnes i'r holl waith datblygu a pharatoi/goruchwylio'r golygu o'm cartref yn y Rhath, lle gallaf i weithio'n gynhyrchiol mewn hedd.  

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event