Cyfleoedd interniaeth â thâl i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar agor ar hyn o bryd

Mae gennym dri chyfle interniaeth haf â thâl gyda Chaerdydd Creadigol, a ariennir drwy Brifysgol Caerdydd, sydd ar agor i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.

Darllenwch ragor am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, a chyfle i glywed gan fyfyrwyr oedd ar leoliad y llynedd:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 11 April 2023

Mae'r cynllun interniaethau ar y campws yn cynnig ystod eang o gyfleoedd interniaethau â thâl ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhaid i chi fod yn fyfyriwr israddedig sy'n dychwelyd i'w hastudiaethau israddedig yn hydref 2023/24 i fod yn gymwys ar gyfer interniaeth haf 2023.

Eleni, bydd Caerdydd Creadigol yn cynnal tri interniaeth rhwng Mehefin ac Awst. Cwblheir y lleoliadau hyn dros 200 awr a chânt eu talu ar gyfradd fesul awr o £11.18 + 12.07%.

Eleni, bydd ein interniaethau yn canolbwyntio ar dair thema wahanol:

  1. Cynyddu nifer y tanysgrifwyr i gylchlythyr bob pythefnos Caerdydd Greadigol
  2. Ymchwil i'r sector creadigol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd
  3. Mapio’r diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Y llynedd, buom yn gweithio gyda dwy fyfyrwraig ar leoliad a ganolbwyntiodd ar ymchwil ac ymgyrchoedd ymgysylltu. Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud am eu profiadau lleoliad:

Devika Sunand, Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu

An image of Devika at graduation

Fe wnes i interniaeth yng Nghaerdydd Creadigol fel Cynorthwyydd Ymchwil yr haf diwethaf ac roedd yn hwb mawr i osod y sylfaen ar gyfer fy ngyrfa ar ôl i mi orffen yn y brifysgol. Fel cynorthwyydd ymchwil mewn sefydliad creadigol, cefais archwilio amrywiaeth o sectorau creadigol; eu gwaith, eu brwydrau yn enwedig ôl-covid a'u rôl wrth ddyrchafu'r economi greadigol gyffredinol! Roedd fy ngwaith yn canolbwyntio ar y diwydiannau bensaernïaeth a chyhoeddi, gan ymchwilio a drafftio ymgyrchoedd i dyfu'r rhwydweithiau hyn. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, ac mae’r sgiliau a ddatblygais yn ystod fy nghyfnod yng Nghaerdydd Creadigol wedi bod yn help enfawr yn ystod fy helfa swydd ac ymhellach yn fy rôl bresennol. I unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am yr interniaeth hon, rydych ychydig gamau i ffwrdd o gwrdd â chriw o bobl anhygoel a rôl sy'n eich trochi yng nghanol yr economi greadigol.

Eszter Gurbicz, Intern Cysylltiadau Cyhoeddus a Chynnwys

An image of Eszter at graduation

Rhoddodd yr interniaeth hon gyfle i ymuno'n gyfan gwbl a dîm Caerdydd Creadigol. Roeddwn yn falch eu bod yn ymddiried ynof i fod yn greadigol a mentro gyda fy ngwaith, a chefais gefnogaeth i wireddu fy syniadau. Er enghraifft, llwyddais i greu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar fy mhen fy hun, sy'n edrych yn dda ar CV, a thrwy'r broses dysgais sgiliau yr wyf yn eu defnyddio bob dydd yn fy swydd bresennol. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio mewn asiantaeth cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus. Roedd yr interniaeth hon a oedd yn cynnwys ysgrifennu, cyfweliadau, ymchwil a chreu cynnwys yn garreg gamu wych i fy rôl bresennol.

Yn bersonol, roedd bod yn rhan o’r interniaeth hon wedi fy helpu o ran dysgu sgiliau newydd a chael profiad gwaith. Yn fwy cyffredinol, fe helpodd fi i gael dealltwriaeth o’r hyn rwy’n ei fwynhau mewn gweithle a pha fath o swyddi yr hoffwn eu dilyn yn y dyfodol.  Byddwn yn argymell yr interniaeth hon i unrhyw un a fyddai eisiau dysgu mwy am y sector creadigol a sut brofiad yw gweithio yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event