Mae Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen yn cydweithio i gynhyrchu sioe gerdd ddramatig Gymraeg newydd

Bydd Branwen: Dadeni, a ysgrifennwyd gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies, yn cael ei llwyfannu yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor ym mis Tachwedd 2023.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 27 March 2023

An image of the Branwen title

Mae'r Ganolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen yn dechrau’r gwaith o gyflawni eu cyd-weledigaeth o gynhyrchu sioe gerdd Gymraeg nodedig, gan ddenu talent o bob cwr o Gymru ar gyfer ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen o straeon mytholegol hynafol y Mabinogi. 

Wedi’i arwain gan dîm o dri awdur, mae cyd-greu wrth wraidd y cynhyrchiad. Mae gwaith ysgrifennu blaenorol Hanna Jarman yn cynnwys GALWAD (Collective Cymru), Y Teimlad (CCIC) a drama gomedi S4C Merched Parchus y gwnaeth hi ei chreu, ei chyd-ysgrifennu ac ymddangos ynddi; mae gwaith ysgrifennu Elgan Rhys yn cynnwys Elen Benfelen/Goldilocks a Woof ar gyfer Theatr y Sherman, ac mae’n gweithio fel Golygydd Creadigol a Rheolwr Prosiect ar y gyfres Y Pump (Y Lolfa); yn fwyaf diweddar, mae Seiriol Davies, sydd hefyd wedi cyfansoddi ac ysgrifennu geiriau’r sioe, wedi ysgrifennu Betty: A Sort of Musical (Royal Exchange Manceinion), Milky Peaks (Theatr Clwyd ac Áine Flanagan Productions) a How to Win Against History, a agorodd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin – cafodd y sioe yr adolygiadau gorau yn yr Ŵyl honno ac yna gwerthodd ei rhediad yn y Young Vic yn Llundain allan. 

Cyfarwyddir Branwen: Dadeni gan Gyfarwyddwr Artistig Frân Wen Gethin Evans, (Ynys Alys a Faust & Greta ar gyfer Frân Wen; cyfarwyddwr artistig perfformio byw ar gyfer GALWAD), sy’n arwain tîm arbennig o dalent greadigol o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Dywedodd Gethin:

 Rydw i wrth fy modd i rannu’r newyddion am ein sioe gerdd newydd sbon gyda Chanolfan Mileniwm Cymru – partneriaeth sy’n allweddol er mwyn ein helpu i ddatblygu gwaith newydd ar raddfa fawr yn Gymraeg.

Mae ailddychmygu chwedl Branwen wedi bod yn daith ddiddorol, ers ein gweithdy cyntaf pan sylweddolon ni pa mor berthnasol y gallai’r stori roedden ni i gyd wedi clywed fel plant fod i’n byd cyfoes. Mae dod o hyd i’r ddynoliaeth yn y ffigurau mytholegol yma i ddatgloi themâu pŵer, galar a theulu gyda thîm creadigol sydd mor dalentog yn fraint enfawr.

Rydw i’n edrych ymlaen at rannu’r sgôr epig a’r stori drasig â chynulleidfaoedd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor drwy ein partneriaid teithio strategol, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Pontio.

An image of Gethin Evans
Gethin Evans 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow:

Rydw i’n llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Frân Wen ar y fenter nodedig hon ar gyfer gwaith ysgrifennu newydd yn Gymraeg yn y genre yma, ar y raddfa hon.

Mae’r cydweithrediad yma yn bwysig iawn i ni wrth i ni weithio ar ein cynhyrchiad Cymraeg mwyaf hyd yma, sy’n seiliedig ar stori Gymreig fyd-enwog a phoblogaidd, wedi’i haddasu ar gyfer ein byd ni heddiw. Alla i ddim aros i weld yr addasiad gwych yma o Branwen, wedi’i ysgrifennu gan Hanna, Elgan a Seiriol, yn dod yn fyw ar lwyfannau ledled y wlad, gydag ein tîm syfrdanol o dalent greadigol Gymreig.

An image of Graeme Farrow
Graeme Farrow

Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Elin Steele (The Scandal at Mayerling, Dextera a chynhyrchiad sydd ar y gweill o Cinderella ar gyfer Scottish Ballet; A Midsummer Night's Dream, Hero of the People, Woof ar gyfer Theatr y Sherman), y dylunydd goleuo Bretta Gerecke (Lady in the Dark ar gyfer Opera Zuid; dylunydd set a goleuo Coming to England ar gyfer Birmingham Rep; dylunydd set, goleuo, gwisgoedd a thafluniadau The Invisible ar gyfer Catalyst Theatre), y sgoriwr Owain Gruffudd Roberts (arweinydd Band Pres Llareggub, band pres cyfoes â naw aelod; trefnydd rheolaidd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Welsh Pops Orchestra a S4C) a’r cyfarwyddwr castio Hannah Marie Williams (The Cost of Living ar gyfer National Theatre Wales, castio byw a theatr ar gyfer GALWAD). 

Bydd Branwen: Dadeni yn agor yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru (8–11 Tachwedd 2023), yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (15–17 Tachwedd 2023) ac yn gorffen yng Nghanolfan Pontio, Bangor (22–25 Tachwedd 2023). Darllenwch fwy.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event