Mannau o dan sylw: Marchnad Caerdydd

Mae hybiau creadigol a chydweithio yn fannau i bobl greadigol ddod at ei gilydd a meithrin syniadau ac arloesedd.

Dyma pam rydyn ni’n lansio ein hymgyrch Mannau o Dan Sylw, sy’n gofyn i’r gymuned greadigol i dynnu sylw at eu hoff ofod creadigol yng Nghaerdydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 13 April 2023

Daw'r un cyntaf gan ein myfyriwr ar leoliad, Jasmine Cardiff, wrth iddi dynnu sylw at Farchnad Caerdydd fel ei hoff ofod creadigol yn y ddinas.

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch cefndir creadigol

Fy enw i yw Jasmine Cardiff (ie, dyna yw fy nghyfenw- go iawn!), ac rwy'n fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio MA Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol. Cefais fy magu yn nhref fach ar lan môr Weymouth, Dorset, felly rydw i wastad wedi bod wrth fy modd bod y tu allan a threulio amser ar y traeth. Mae hyn wedi meithrin fy natur greadigol o oedran ifanc iawn, ac ers hynny rwyf wedi datblygu angerdd mewn celf, ffotograffiaeth ac ysgrifennu.

Jasmine Cardiff
Jasmine Cardiff

Mae archwilio a datblygu fy nghreadigrwydd yn rhywbeth sy'n rhoi allfa i mi - dihangfa, o fywyd bob dydd. Rwyf wrth fy modd yn codi fy mhapur sgetsio ar ddiwedd diwrnod hir a gwneud llun neu ysgrifennu i ffwrdd unrhyw bwysau o'r diwrnod. Gyda hyn mewn golwg, rydw i'n edrych i ddilyn gyrfa greadigol mewn marchnata/hysbysebu, i (gobeithio) gyfuno fy holl ddiddordebau creadigol yn un.

Pa ofod ydych chi'n tynnu sylw ato a pham?

Er mai dim ond eleni yr wyf wedi ei ddarganfod, rwyf wedi dewis tynnu sylw at Farchnad Caerdydd fel fy hoff ofod creadigol yng Nghaerdydd, am sawl rheswm. Mae'r farchnad Fictoraidd yn gartref i lawer o fasnachwyr crefftau unigryw, gyda dwy lefel siopa i'w fwynhau.

O gynnyrch ffres a bwyd wedi’i goginio i grefftau wedi’u gwneud â llaw, mae Marchnad Caerdydd yn cynnig ystod amrywiol o nwyddau sy’n arddangos ac yn meithrin creadigrwydd y gymuned leol ac ehangach. Mae diwylliant Cymreig yn ffynnu o fewn ei bedair wal, felly mae’n amhosib ymweld a pheidio â dod i ffwrdd yn llawn brwdfrydedd ac ysbrydoliaeth.

Inside the Market
Yn y Farchnad 

Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am y gofod hwn?

Mae mor anodd dewis un peth yn unig, ond rwyf wrth fy modd â sut mae Marchnad Caerdydd wedi’i gadw mor dda, o’r bensaernïaeth i berchnogion y stondinau, i’r crefftau eu hunain. Mae ganddo gymaint o gymeriad ac mae’n ofod diwylliannol gwerthfawr, sydd mor bwysig yn fy marn i ar gyfer ysbrydoli a meithrin creadigrwydd unrhyw un sy’n ymweld.

Beth hoffech chi ei weld yn y gofod hwn yn y dyfodol?

Er bod cymaint o bethau i'w caru am Farchnad Caerdydd, yn bendant mae yna bethau y credaf y gallent ei gwneud hyd yn oed yn well. Ar hyn o bryd mae'n cau am 17:00, felly efallai y gellid ymestyn ei oriau agor i ganiatáu i fwy o bobl ddarganfod ac archwilio'r gofod gwych (a byddai bar gwin yn eithaf neis hefyd!).

Mae yna hefyd nifer o unedau, yn enwedig i fyny'r grisiau, nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac rwy'n meddwl y gallent gael eu rhentu neu eu cynnig i werthwyr lleol. Gan fod diffyg gwaith celf yn y farchnad ar hyn o bryd, efallai y gellid llenwi’r gofodau hyn ag artistiaid lleol, gan ganiatáu iddynt weithio a gwerthu eu gwaith. Gallai hyn ychwanegu'n fawr at yr amrywiaeth o grefftau a chyfoethogi naws y diwylliant Cymreig sy'n llenwi'r farchnad.

Welsh Flag in the Market

Darllenwch fwy am Farchnad Caerdydd.

Gallwch hefyd edrych ar ein rhestr lawn o fannau creadigol yng Nghaerdydd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event