The Posh Club: Profiad cabaret cymdeithasol yn dod i Gaerdydd

Mae Common Wealthgwneuthurwyr theatr o Gaerdydd, yn gweithio gyda Duckiecwmni sy'n rhedeg nosweithiau clwb yn Llundain, i ddod a'r sioe hynod lwyddiannus The Posh Club i Gymru am y tro cyntaf erioed.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 8 December 2022

Mae The Posh Club, digwyddiad cymdeithasol 'crand' tafod-yn-y-boch ar gyfer rheini dros 60, wedi'i gynnal mewn lleoliadau ar draws Llundain ers bron i ddegawd. Gyda te prynhawn, dawnsio ac amryw o berfformiadau gan artistiaid lleol, mae'r digwyddiad wedi bod yn hynod lwyddiannus yn adlonni cynulleidfaoedd hŷn Llundain yn rheolaidd.

A picture from Posh Club in London

Posh Club yn cyrraedd Caerdydd

Bydd y digwyddiad cyfareddol mewn steil y 40au ar agor i dros 100 o bobl hŷn. Bydd yn trawsnewid canolfan gymunedol Hyb Llaneirwg yng Nghaerdydd ar 20-22 Rhagfyr 2022 i hwb 'crand' o adloniant, gyda help cwmni theatr Common Wealth.

Yr unig reol na chewch ei thorri yw’r cod gwisg: Crand.

Dywedodd Rhiannon White, cydgyfarwyddwr artistig Common Wealth:

"Mae Common Wealth wedi ymsefydlu yn nwyrain Caerdydd ers pedair blynedd, gan weithio gyda'r gymuned leol drwy gyd-greu a chynnal perfformiadau byw er mwyn creu newid cymdeithasol. Bydd The Posh Club yn garreg filltir i ni wrth i ni ddod â'r henoed, pobl leol fel gwesteiwyr perfformio a llu o artistiaid sy'n gwthio ffiniau talentog at ei gilydd. Y gobaith yw y bydd dod â'n cymuned at ei gilydd i ddathlu ein gilydd mewn ffordd ddirywiaethol, chwareus, a chalonogol, yn lledaenu rhywfaint o lawenydd yn y cyfnod ansicr a heriol hwn.”

Darllenwch fwy am y sioe a sut i archebu tocyn neu gwirfoddoli i gefnogi'r digwyddiad. 

A picture from Posh Club in London

Mwy am Common Wealth                          

Mae Common Wealth yn gwmni theatr gyfoes safle-benodol wedi’i leoli yn Bradford a Chaerdydd. Mae’n edrych i lwyfannu ei gwaith o fewn calon cymunedau, gan ailddatgan bod pŵer theatr yn perthyn i bawb. Dysgwch fwy am Common Wealth a'i waith.                                                             

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event