Dr Marlen Komorowski

Dadansoddwr ym Mhrifysgol Clwstwr ac Uwch-ymchwilydd yn SMIT – Vrije Universiteit Brussel

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Dr Marlen KomorowskiMae ymchwil Marlen yn canolbwyntio ar brosiectau'n ymwneud â'r cyfryngau a'r diwydiannau creadigol, dadansoddi effaith, clystyru'r diwydiant, dadansoddi ecosystemau a gwerth rhwydweithiau, modelau busnes newydd, ac effaith digideiddio ar ddiwydiannau a chwmnïau. Mae hi wedi gweithio gyda thîm Caerdydd Creadigol ar brosiectau ymchwil sy'n ymdrin â phynciau fel deialog ryngddiwylliannol, hybiau creadigol, a rhwydweithiau dinasoedd creadigol. Mae ganddi radd meistr ar ddadansoddi a delweddu data.

Ysgrifenna Marlen:


Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae Caerdydd Creadigol wedi dod yn rhwydwaith ac yn llysgennad dros yr economi greadigol leol. Yn enwedig mewn perthynas â llunwyr polisi ond hefyd gyda rhanddeiliaid eraill y diwydiant ar bob lefel.

Mae Caerdydd Creadigol wedi helpu i nodi cryfderau a gwendidau'r economi greadigol leol.

Cydnabyddir yn eang bellach, er mwyn creu clystyrau creadigol llwyddiannus, bod angen adeiladu strategaethau a galluogi newid yn seiliedig ar y cryfderau sy’n bodoli eisoes, a chydnabod gwendidau presennol. Dyma pam fod ymchwil ac adeiladu'r sylfaen wybodaeth briodol mor bwysig. Gall ymchwil o'r fath a mewnwelediadau newydd gefnogi polisïau a strategaethau sy'n cael eu gyrru gan dystiolaeth gan sefydliadau creadigol a llunwyr polisi ar lefel leol a thu hwnt. O ganlyniad, efallai y bydd buddsoddiad newydd mewn clystyrau creadigol, prosiectau newydd a chleientiaid newydd.

Mae'r DU eisoes yn mwynhau enw da am ymchwil yn yr economi greadigol, sy'n cynnwys sefydliadau fel Nesta a'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ond mae data am economi greadigol Caerdydd a Chymru yn dal i fod yn denau mewn cymhariaeth. Rwyf wedi darganfod mai anaml mae Caerdydd wedi ennill cydnabyddiaeth fel dinas gyfryngau flaenllaw yn y DU, er bod Caerdydd wedi denu llawer o brosiectau creadigol sydd wedi bod yn llwyddiannus yn rhyngwladol fel cynyrchiadau teledu a ffilm o’r radd flaenaf. A siarad yn gymharol, nid yw Caerdydd yn cael ei adnabod yn eang eto fel lleoliad deniadol ar gyfer gweithgareddau creadigol.

Felly, mae angen gwneud gwaith er mwyn gwneud Caerdydd yn fwy gweladwy fel dinas greadigol a chanolfan cynhyrchu cyfryngau flaenllaw yn Ewrop. Mae Caerdydd Creadigol wedi cymryd ei gamau cyntaf i gau'r bylchau gwybodaeth hyn. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, Cyfeiriadur Rhwydwaith Caerdydd Creadigol, sy'n arddangos proffiliau 3,900 o unigolion a sefydliadau creadigol yn y ddinas, ei gyfres newydd o bodlediadau, a'i nifer cynyddol o brosiectau ymchwil. Mae’r rhaglen Clwstwr wedi cryfhau gallu ymchwil a datblygu'r sector yn fawr ac wedi darparu sylfaen ar gyfer cynigion proffil uchel pellach. Mae hyn i gyd yn bosibl oherwydd bod Caerdydd Creadigol wedi darparu tystiolaeth am gryfder a gwendidau ei economi greadigol leol.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar blatfform mapio sy'n delweddu'r ecosystem greadigol leol mewn mwy o fanylder. Rwy'n hyderus y bydd agenda ymchwil Caerdydd Creadigol yn parhau i esblygu i fodloni anghenion y rhanbarth.

Creative Cardiff host first ever culture hustings at National Museum

< Previous article
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event