Ian Cooke-Tapia

Storïwr amlddisgyblaethol, darlunydd ac entrepreneur

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Ian Cooke Tapia headshotMae gwaith Ian yn dod â phethau at ei gilydd: mae materoliaeth, yr amgylchedd byw, mudiadau anifeiliaid, ac amlieithrwydd yn dod ynghyd i greu bydoedd braf. Yn 2020, sefydlodd Ian Cooked Illustrations fel platfform i gydweithio gyda gwyddonwyr trofannol a chymdeithasol o bob rhan o'r byd, er mwyn ymchwilio i ffyrdd o wella cyfathrebu gwyddonol drwy straeon a chyfryngau newydd.

Ysgrifenna:

Yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, gofynnodd tiwtor pwy oedd am sefydlu gyrfa yng Nghaerdydd. Petrusodd y grŵp; saethodd fy llaw i fyny.

Yr wythnos ganlynol, cefais fy hun yn meddwl pa mor cŵl oedd bod yn bwyta cacennau Cymreig ochr yn ochr â pherchnogion clybiau nos metel trwm, cynhyrchwyr theatr ac athrawon economi ddiwylliannol mewn digwyddiad Caerdydd Creadigol. Gallwch ddychmygu sut roedd myfyriwr darlunio dryslyd yn teimlo yn yr ystafell honno; cael ei ofyn ynglŷn â sut roedd yn teimlo bod yr ecosystem greadigol yn gweithio yng Nghaerdydd, gan fod ei farn yn cael ei pharchu a'i gosod ar yr un lefel â'r rhai a oedd wir yn gwybod eu pethau.

Nid hwn fyddai'r tro olaf y byddai Caerdydd Creadigol, fel sefydliad, rhwydwaith a phobl, yn gwneud i mi deimlo nid yn unig yn haeddu bod yn rhan o ddiwydiant mwy, ond yn amhrisiadwy yn fy mhrofiad. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, newydd adael y brifysgol a heb wybod yn iawn beth oeddwn yn ei wneud, euthum i gyflwyniad Caerdydd Creadigol am fapio'r economi greadigol.

Yno, siaradais am fy syniadau; ac aethant y tu hwnt i wrando – gan gynnig helpu, fy nghadw yn y sgyrsiau, a fy nghyfeirio at eraill sy'n gweithio yn yr un maes.

Fe'm gwnaed i deimlo bod Caerdydd Creadigol yno i'm cefnogi hefyd trwy ddarparu'r peth mwyaf gwerthfawr hwnnw i berson ifanc creadigol: cael fy ystyried o ddifrif.

Yr hyn a’m cariodd trwy frig y pandemig, pan gladdodd straen ac ansicrwydd fi o dan dunelledd o flancedi, oedd nid rhyw ffynhonnell ynni ddiddiwedd ddelfrydol mae’r rhai sy’n derbyn cwlt entrepreneuriaeth yn credu ynddi – ond fy nghymuned. Rhoddodd y blynyddoedd a dreuliais yn cysylltu ag eraill, yn lleol ac yn rhyngwladol, fynediad i mi i brosiectau newydd ar adeg yr oeddwn yn meddwl na fyddai dim ar gael. Y tu hwnt i'r ariannol oedd y newid sydyn hwn mewn canfyddiad: roedd yn rhaid i'r hyn a wnaethom unwaith mewn cystadleuaeth gael ei wneud ar y cyd.

Mae Caerdydd Creadigol fel rhwydwaith wastad wedi teimlo fel gofalwr adeilad: yn anweledig y rhan fwyaf o'r amser, ond yn barod i helpu pan fydd ei angen arnoch. Gwnaethant nid yn unig fy helpu i gysylltu â hyd yn oed mwy o bobl anhygoel, ond hefyd fy hwyluso fel artist a busnes, i arbrofi mewn ffordd sy'n gwneud yfory yn fwy realistig o lawer.

Ian Cooke Tapia's Our creative Cardiff piece
Copyright: Encounters: Ian Cooke Tapia for Our creative Cardiff
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event