Paned i Ysbrydoli: Cyfathrebu'n ddwyieithog (Caerdydd)

19/04/2024 - 14:00
Tramshed Tech, Caerdydd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein. 

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Cyfryngau cymdeithasol dwyieithog

Yn ymuno â ni fydd Uwch Reolwr Cynnwys Digidol Llywodraeth Cymru, Laura Truelove, a fydd yn rhoi cyflwyniad byr ar ddefnyddio’r Gymraeg i greu cynnwys digidol dwyieithog deniadol.

Mae Laura Truelove yn Uwch Swyddog Digidol i Lywodraeth Cymru. Mae hi'n gyfrifol am reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog proffil uchel y llywodraeth, gan gynnwys Instagram, Twitter, Facebook, YouTube, LinkedIn a blog swyddogol Llywodraeth Cymru. Mae Laura yn angerddol am gyfathrebu'n ddwyieithog ac yn siarad â sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys yng nghynadleddau Social Media Dublin, Belfast a Chymru.

Nid oes angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg i fynychu’r digwyddiad hwn, ond dylai fod gennych ddiddordeb mewn sut y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg i greu cynnwys ystyrlon ac ymgyrchoedd digidol.

Archebu eich lle.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event