Rhywbeth Creadigol?

Podlediad ar gyfer gweithwyr creadigol neu unigolion sydd â diddordeb yn y maes. Bydd Rhywbeth Creadigol? yn trafod y manteision a’r anfanteision o weithio yn y diwydiannau creadigol.

Bydd pob pennod yn cynnwys gweithwyr ac arbenigwyr fydd yn dod ynghyd i drafod yr heriau sy’n wynebu’r diwydiannau creadigol ar hyn o bryd – gan graffu ar yr ymchwil diweddaraf a rhannu profiadau.

Dyma bodlediad gan rwydwaith dinas Caerdydd Creadigol, wedi'i greu er mwyn y gymuned greadigol. 

Gwrandewch ar Apple, Spotify, Y Pod neu chwiliwch am 'Rhywbeth Creadigol?' ar unrhyw blatfform neu yma.