Sara Pepper

Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 October 2021

Sara Pepper headshotRoedd cefndir Sara yn cynnwys cynhyrchu, rhaglennu a chyflwyno cynnwys ar gyfer y diwydiant perfformio byw pan ymgymerodd â rôl newydd Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol yn 2014. Ei gweledigaeth oedd ‘gwneud Caerdydd y lle mwyaf creadigol y gall fod’. Mae hi wedi bod yn ffigwr canolog wrth gynllunio a lansio Caerdydd Creadigol a Clwstwr. Mae’r ddwy fenter yn adlewyrchu ei hangerdd dros hyrwyddo a datblygu talent a syniadau creadigol a thros frocera partneriaethau.

Ysgrifenna Sara:

Gyda’n gilydd, rydym wedi adeiladu rhwydwaith i ymfalchïo ynddo. Rhwydwaith sydd wedi’i gyd-gynhyrchu gyda, gan ac ar gyfer y gymuned greadigol, i annog cysylltedd a chydweithio, ehangu cyfleoedd, a darparu catalydd ar gyfer arloesi, llais i’r sector creadigol a sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu polisi.

Ymhlith cyflawniadau mwyaf arwyddocaol y pum mlynedd gyntaf hyn mae:

 

  • 3,900 o aelodau rhwydwaith Caerdydd Creadigol.
  • 65 o ddigwyddiadau personol ac ar-lein (gyda 3,000 a mwy yn bresennol).
  • 1.5 miliwn o ymweliadau â creativecardiff.org.uk a 1000+ o swyddi wedi’u lanlwytho.
  • 100+ o e-gylchlythyrau wedi’u hanfon bob pythefnos at aelodau gyda’r newyddion, digwyddiadau a swyddi diweddaraf.
  • 18 mil o ddilynwyr ar sianeli cymdeithasol (Twitter, Instagram, Facebook a LinkedIn).
  • 2,700 o achosion o chwarae ein podlediadau 2020 ‘Rhywbeth Creadigol?’ a ‘Get A“Proper” Job’.
  • Mapio economi greadigol Caerdydd, gan arwain at adroddiad ymchwil, mapiau rhyngweithiol, a rhannu gyda deg a mwy o siaradwyr a 100 o fynychwyr.
  • Sefydlu’r Grwp Ymchwil Gwyliau, y Grwp Cydweithio Creadigol a Thechnoleg Ymgolli De Cymru.
  • Ymchwil yn canolbwyntio ar hybiau a chydweithio, gwyliau, y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws, a rhwydweithiau dinasoedd creadigol.

Fel un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, mae Caerdydd wedi gweld llawer o newid dros y pum mlynedd diwethaf – y sector creadigol hyd yn oed yn fwy ac yn arbennig ers COVID-19.

Mae gwaith Caerdydd Creadigol wastad wedi ymwneud â helpu i dyfu momentwm y ddinas ac economi greadigol ei rhanbarth, a’r ddealltwriaeth o hyn, ac mae hyn yn ei dro wedi chwarae rhan bwysig wrth ddarparu swyddi, ffyniant, a ffordd gyfoethocach o fyw yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol ym mhob agwedd, gan gynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael â materion cymdeithasol megis sicrhau sector creadigol mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol.

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gydag eraill i sicrhau bod pawb ar draws y rhanbarth, a thu hwnt, yn teimlo’r buddion a’r cyfleoedd. Mae rhai o’r materion dybryd cyfredol i’n cymuned yn cynnwys: gweithleoedd, parodrwydd i arloesi, sgiliau menter, amrywiaeth, denu a chadw talent, argaeledd sgiliau technoleg, ac iechyd a lles.

Mae’r rhain i gyd yn bryderon allweddol i Caerdydd Creadigol, ac rydym eisoes yn ceisio mynd i’r afael â hwy gyda mentrau fel y Grwp Cydweithio Creadigol a Thechnoleg Ymgolli De Cymru. Rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf i wella effaith ymhellach a sicrhau bod y rhwydwaith yn gweithredu fel adnodd cymorth ar gyfer y sector ar ôl COVID-19, ond mae mwy i’w wneud.

Y nod sy’n ein gyrru ymlaen bob dydd yw cefnogi twf a datblygiad yr economi greadigol yn y rhan hon o’r byd fel ei bod yn wydn ac, o ganlyniad, yn cael ei chydnabod a’i dathlu yn y byd ac o’i gwmpas.

Os gallwn gyflawni’r nod hwn, bydd gan bob unigolyn creadigol yn y rhanbarth y cyfle i sicrhau amlygrwydd, proffil a llwyddiant uwch.

Pete Fowler's water tower
Copyright Pete Fowler_Literature Wales_Camera Sioned.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event