Yr Athro Justin Lewis

Athro Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 18 August 2022

Prof Justin Lewis presenting at Show and TellMae Justin yn gyn-Bennaeth Ysgol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Mae wedi ysgrifennu'n eang am y cyfryngau, diwylliant a gwleidyddiaeth. Mae Justin yn gyd-sylfaenydd Caerdydd Creadigol ac mae'n parhau i chwarae rhan bwysig wrth gynllunio ei strategaeth a'i ddyfodol.

Ysgrifenna:

Dechreuodd Caerdydd Creadigol gyda gweledigaeth eang wedi'i llywio gan yr hyn yr oeddem yn ei wybod am ddinasoedd creadigol. Roeddem yn gwybod bod gan y dinasoedd creadigol mwyaf llwyddiannus rwydweithiau cryf. Roeddem yn gwybod y gall cydweithredu ysbrydoli mathau newydd o greadigrwydd. Roeddem yn gwybod bod angen i ddinas allu deall ei chryfderau a'i gwendidau ei hun i lywio ei dyfodol. Ac roeddem yn gwybod bod yn rhaid i ni wrthsefyll hen raniadau rhwng y sector diwylliannol (â chymhorthdal yn gyffredinol) a'r diwydiannau creadigol (sy’n canolbwyntio fwy ar y sector masnachol).

Roeddem hefyd yn gwybod bod yn rhaid i ni fod yn realistig ynghylch faint y gallai tîm craidd bach ei gyflawni. Bum mlynedd yn ddiweddarach, dyma ychydig o'r pethau rydym wedi'u dysgu.

Roedd Raymond Williams yn ei alw’n strwythur teimlad, ymdeimlad o gymuned a phwrpas a rennir, sbardun i rywbeth newydd

1. Yr alcemi o ddod â phobl ynghyd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Caerdydd Creadigol wedi defnyddio sawl math gwahanol o ymgynnull creadigol, rhai â ffocws a thema (y Grŵp Cydweithio Creadigol, Technoleg Ymgolli De Cymru, cynadleddau a gweithdai), eraill yn fwy agored ac amrywiol (y nifer fawr o ddigwyddiadau 'dangos a dweud', y teithiau o amgylch hybiau, y dathliadau). Nid oes fyth unrhyw warantau, ond mae'r pryfociad a chymysgedd cywir wedi creu ychydig bach o hud a lledrith. Mae'n anodd mesur gwerth y rhain mewn termau cyfrifyddu cadarn. Mae eu gwerth yn gorwedd yn yr hyn yr oedd Raymond Williams yn ei alw’n ‘strwythur teimlad’: ymdeimlad o gymuned a phwrpas a rennir, sbardun i rhywbeth newydd.

2. Adeiladu ar amrywiaeth. Pan ddaw creadigrwydd yn fformiwläig neu'n rhagweladwy, mae ein diwylliant yn marw marwolaeth araf a diflas. Daw egni creadigol o wahaniaeth cadarnhaol – a dyna pam mae cwmnïau amrywiol yn aml yn fwy creadigol. Mae amrywiaeth bellach wedi'i hymgorffori yn ysbryd Caerdydd Creadigol. I mi, roedd prosiect wal stori 2020 yn fynegiant gwych o hynny – clwstwr o straeon creadigol sy'n arddangos yr amrywiaeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf fel rhan annatod o greadigrwydd ein dinas.

3. Pwysigrwydd gweithwyr llawrydd. Mae gweithwyr llawrydd yn rhan gynyddol fawr o'r economi greadigol, ond maent yn aml yn cael eu hesgeuluso mewn mecanweithiau polisi ac ariannu. O'r flwyddyn gyntaf, mae cefnogi gweithwyr llawrydd wedi bod yn greiddiol i weithgarwch Caerdydd Creadigol. Ei ddarn cyntaf o ymchwil (un o '52 peth') oedd cynhyrchu map manylach a mwy diffiniol o sector creadigol Caerdydd. Hwn oedd yr arolwg cyntaf o'i fath i fynd y tu hwnt i'r setiau dyddiad presennol a chynnwys gweithwyr llawrydd creadigol (dros fil ohonynt). Erbyn hyn, gweithwyr llawrydd yw mwyafrif aelodaeth 3,900 o unigolion Caerdydd Creadigol, rhwydwaith a ganiataodd i ni gyd-greu arolwg o weithwyr llawrydd creadigol i fanylu ar ddiffygion cymorth y llywodraeth i unig fasnachwyr yn ystod COVID-19, a thrwy hynny lobïo'n effeithiol ar eu rhan.

Mae Caerdydd Creadigol wedi cadarnhau rhywbeth roeddwn i eisoes yn ei wybod: daw 90% o gymeriad prosiect o'r

bobl sydd wrth wraidd y peth. Mae wedi bod yn fraint i mi weithio gyda thîm bach ond gwych sydd wedi

rhoi cymaint o fywyd i mewn i Caerdydd Creadigol.

4. Arwain gyda thystiolaeth. Prif ffocws Caerdydd Creadigol yw'r sector creadigol, ond mae ei leoliad ym Mhrifysgol Caerdydd yn golygu bod ymchwil wedi bod yn ei DNA erioed. Mae llais Caerdydd Creadigol wedi ei atalnodi gan ystod o brosiectau i ddeall siâp a chymeriad ein sectorau creadigol, y buddion a ddaw yn eu sgil, a'r cyflyrau sy'n caniatáu iddynt ffynnu. Uchafbwyntiau fu’r Grŵp Ymchwil Gwyliau, gwaith i werthuso Gŵyl y Llais cyntaf, ac amrywiaeth o brosiectau ymchwil rhyngwladol y British Council. Y sylfaen hon a alluogodd Caerdydd Creadigol i arwain cais ymchwil UKRI llwyddiannus – gwerth £10 miliwn – i greu’r rhaglen Clwstwr yn 2019. A’r ymdeimlad hwn o chwilfrydedd a ysbrydolodd y tîm i guradu (yn hyfryd) y gynhadledd gyntaf erioed o rwydweithiau creadigol y DU er mwyn inni ddysgu oddi wrth ein gilydd. Yn sicr, roedd yna chwa o hud a lledrith yn yr ystafell Zoom honno.

Ond ar nodyn mwy personol, mae Caerdydd Creadigol wedi cadarnhau rhywbeth roeddwn i eisoes yn ei wybod: daw 90% o gymeriad prosiect o’r bobl sydd wrth wraidd y peth. Mae wedi bod yn fraint i mi weithio gyda thîm bach ond gwych sydd wedi rhoi cymaint o fywyd i mewn i Caerdydd Creadigol. Daw ei natur agored a chadarnhaol, ei uchelgais a’i egni oddi wrthynt hwythau.

 

Composite of Our creative Cardiff participants
Ein cyfranogwyr wal stori Caerdydd Creadigol 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event