Cyfres 3, pennod #3 Get a ‘Proper’ Job – Meithrin arweinyddiaeth greadigol

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 October 2021

Yn nhrydedd bennod y drydedd gyfres o Get a ‘Proper’ Job, mae Kayleigh Mcleod yn siarad â Gillian Mitchell; Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Dr Sita Thomas; Gwneuthurwr Theatr, Cyflwynydd Milkshake Channel 5, Cyfarwyddwr Artistig Theo, Cydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a hefyd Ymddiriedolwr yn Theatr y Young Vic ac Emergency Exits Arts. Maen nhw’n trafod arweinyddiaeth a'r diwydiannau creadigol a diwylliannol, amrywiaeth o fewn rolau arwain, a pha rinweddau sy'n gwneud arweinydd gwych.

Gillian and Sita side by side on Zoom screen

 

Yn ystod y bennod, mae Sita yn rhannu ei hangerdd am arweinyddiaeth, ac yn esbonio'r hyn y mae'n chwilio amdano mewn arweinydd: Rwy'n credu y gallai pawb gael eu hysbrydoli, a hyd yn oed fod yn arweinydd yn eu bywydau o ddydd i ddydd... I mi, o ran yr hyn sy'n gwneud arweinydd da iawn, rwy'n ei hoffi pan allaf gredu go iawn mewn rhywun. Fel… Waw! Rwy'n credu'n llwyr ynoch chi oherwydd bod popeth rydych chi'n ei ddweud yn gyhoeddus ac yn fewnol yn cael ei ategu gan gamau gwirioneddol.

Maen nhw hefyd yn trafod amrywiaeth ym maes arweinyddiaeth a'r effaith mae hynny’n ei chreu. Esbonia Gillian: "Rwy'n credu bod problem hyder a phroblem o ran gwelededd. Ond wrth siarad am fenywod, yr un cwestiwn yw hi, ynte, yn ymwneud ag amrywiaeth? Mae angen i ni weld mwy o hynny ar y ‘Brig’ (mewn dyfynodau), er mwyn newid hynny ar y 'Gwaelod', a dydw i ddim yn meddwl bod angen i ni byth roi’r gorau i hyn.”

Cafodd y bennod hon ei recordio o bell ym mis Awst 2021.

Gwrandewch ar y bennod lawn yma:

iTunes:

Spotify:

Dolenni a rhagor o wybodaeth

Emergency Exit Arts

Fio

Chwarae Teg

Argymhellion y gwesteion

Baljeet Sandhu - The Lived Experience Movement

The Privilege Café

Jude Kelly – Desert Island Discs

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event