Get A ‘Proper’ Job, cyfres 3, pennod #4 - Gyrfaoedd creadigol yn cael effaith gymdeithasol

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 29 October 2021

Ym mhedwaredd bennod y drydedd gyfres o Get A ‘Proper’ Job, mae Kayleigh Mcleod yn siarad â Becky Davies; Dylunydd Theatr, Artist a Chydlynydd Mynediad Creadigol, a Chris Hill; Rheolwr Gwyrdd i Ffilm Cymru Wales. Maen nhw’n trafod dyfodol gwaith yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol ac yn canolbwyntio ar rai o'r swyddi sy'n ymddangos er mwyn mynd i’r afael â materion cymdeithasol. 

Headshots of Becky Davies and Chris Hill recording the Get A 'Proper' Job podcast

Mae Chris yn sôn am bwysigrwydd cyfathrebu wrth fynd i'r afael â materion cymdeithasol:

Mae eich cyfathrebu’n allweddol iawn,a dim ond siarad â phobl. Wrth siarad â gwahanol ddiwydiannau, cwmnïau, sefydliadau, rwy'n credu ei bod yn allweddol iawn dysgu o ran beth yw eu math o heriau, neu’r rhwystrau sydd i gyflawni nod a rennir o bosibl.

Mae'n ychwanegu, pan ddaw'n fater o faterion pwysig fel newid yn yr hinsawdd: "Maegwir angen i ni i gyd fod yn gweithio gyda'i gilydd gan nad unigolion yn unig ydyn ni, mae'n bob math o sector mewn ffordd." 

Mae Becky hefyd yn pwysleisio'r posibiliadau newydd cyffrous ar gyfer dyfodol y diwydiannau creadigol a diwylliannol, sy'n dod â mwy o fynediad: 

Felly, yr hyn rwy'n ceisio'i wneud hefyd yw eu hysbrydoli nhw [cwmnïau] i weld y posibiliadau, yn hytrach na gweld y peth fel: 'O, diar, dyna beth arall y mae'n rhaid i ni ei reoli' ac rwy’n ceisio eu codi neu eu llywio i ffwrdd o unrhyw fath o deimladau negyddol ynghylch mynediad, a hefyd, goblygiadau ariannol mynediad. Ac yn hytrach, gweld y peth fel cyfoeth o bosibiliadau cyffrous a rhyfeddol, a hefyd cymuned gyfan rydych chi'n ei galluogi i fod yn rhan o'r hyn rydych chi'n ei wneud fel cwmni.

Cafodd y bennod hon ei recordio o bell ym mis Awst 2021.  

Gwrandewch ar y bennod lawn yma:

iTunes:

Spotify: 

Dolenni a grybwyllir 

Argymhellion 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event