Get a ‘Proper’ Job pennod #2 - Datblygu eich gyrfa greadigol

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

 

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 October 2021

Yn ail bennod y drydedd gyfres o Get a 'Proper' Job, mae Kayleigh Mcleod yn siarad â Jessica Dunrod, cyfieithydd, awdur, gweithredydd a chyfarwyddwr yr unig gwmni cyfieithu yn y Deyrnas Unedig sydd â pherchennog du; yn ogystal â Jonny Campbell, cynhyrchydd creadigol, gwneuthurwr ffilmiau arobryn, dyn camerâu a golygydd, sydd hefyd â chefndir mewn pensaernïaeth. Byddant yn trafod eu portffolios gyrfa eclectig, sgiliau trosglwyddadwy a datblygiad eu gyrfaoedd creadigol.

Jonny and Jessica on Zoom

Yn ystod y podlediad, mae Jessica yn rhannu ei phrofiad o weithio o fewn gwahanol feysydd:

Yn y pen draw, ym mhob un o’m busnesau rwy'n deall mai fi yw fy musnesau. Felly, p'un a ydw i mewn cwmni cyfieithu, ac yn delio â llawer o wahanol brosiectau cyfieithu sy'n mynd i wahanol ieithoedd, neu rwy'n delio â llyfrau gwahanol. Y peth pwysig yw ceisio mewn rheolaeth arno. Mewn gwirionedd mater o ddefnyddio’r un arbenigedd yw hi a’i gymhwyso i wahanol amgylchiadau.

Mae Jonny hefyd yn sôn am bwysigrwydd rhoi cynnig ar bethau newydd o fewn eich gyrfa greadigol: "Rwy'n credu y bydd pob peth rydych chi'n ei ddweud 'ie' neu 'na' iddo yn rhywbeth y byddwch yn dysgu rhywbeth ohono. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig peidio ag ofni newid cyfarwyddiadau mor aml ag y teimlwch bod angen i chi wneud hynny cyn i chi gyrraedd rhywle lle rydych chi’n meddwl mai dyma beth rydw i eisiau bod yn ei wneud."

Gwrandewch ar y bennod lawn yma. 

iTunes:

Spotify: 

Cafodd y bennod hon ei recordio o bell ym mis Awst 2021.

Dolenni a rhagor o wybodaeth

Argymhellion y gwesteion

Gwrandewch ar benodau eraill o Get a 'Proper' Job yma.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event