Get a 'Proper' Job, pennod #1 – Dyfodol swyddi: TikTok ar gyfer busnes

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 September 2021

Ym mhennod gyntaf cyfres tri o Get a 'Proper' Job mae Kayleigh McLeod yn siarad â Kayed Mohamed-Mason, prentis TikTok ar gyfer asiantaeth hysbysebu S3 yng Nghaerdydd a Rebecca Campbell, Partner Rheoli ar gyfer Datblygu’r Asiantaeth yn S3 Advertising am ddyfodol gwaith yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Yn benodol, byddwn yn edrych ar y mathau newydd o rolau y gallem eu gweld yn y dirwedd ddigidol sy'n esblygu'n barhaus. 

Becky Campbell and Kayed Mohamed-Mason on Zoom split screen recording Get A 'Proper' Job podcast

Wrth drafod y sgiliau sydd eu hangen i fod yn brentis TikTok, dywedodd Kayed: "Mae angen i chi gael ymennydd sy’n gweithio’n gyflym - ar TikTok mae tueddiadau newydd yn codi o hyd, ac mae angen i chi allu cadw i fyny. Mae bron yn haws i mi nawr yn gweithio i frand a gyda chleientiaid ar TikTok oherwydd rwy’n gallu canolbwyntio ar un peth a meddwl, dyma beth sy'n digwydd felly sut ydw i’n gallu ei droi'n rhywbeth  y mae'r cleient ei eisiau.

Os ydych chi'n gweithio i frand ar TikTok, mae angen i chi fod yn benagored ac edrych ar bopeth yn wrthrychol – sut mae hyn yn gweithio o safbwynt y brandiau?

Wrth sôn am gyfuno sgiliau digidol a chreadigol ym myd busnes, dywedodd Becky: "Mae cymaint o gyfleoedd i ddod â sgiliau digidol a chreadigrwydd a'u defnyddio i gyflawni nodau busnesau.

Os ydyn ni’n gallu cael mwy o bobl greadigol i ddefnyddio eu creadigrwydd yn y byd digidol, bydd hynny’n arwain at berfformiad gwell a fydd, yn y pen draw, yn gwella’r canlyniadau i fusnesau.

Cafodd y bennod hon ei recordio o bell ym mis Awst 2021. 

Gwrandewch ar y bennod lawn: 

iTunes:

Spotify:

Dolenni a rhagor o wybodaeth

Argymhellion y gwesteion

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrandewch ar benodau eraill o Get a 'Proper' Job yma.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event