Yr Athro Jacqui Mulville

Athro Bioarchaeoleg, Prifysgol Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Prof Jacqui Mulville headshotArchaeolegydd yw Jacqui, gyda mwy na 35 mlynedd o brofiad mewn archaeoleg broffesiynol, maes ac academaidd. Mae hi'n arbenigo mewn gwyddoniaeth archaeolegol (yn enwedig bioarchaeoleg), archeoleg ynysoedd ac arfordiroedd, archaeoleg gyfoes a hanesyddol, a rheoli treftadaeth. Mae hi hefyd yn aelod sefydlu o ymchwil rhyngddisgyblaethol y Grŵp Ymchwil Gwyliau a sefydlwyd mewn partneriaeth â Caerdydd Creadigol yn 2016 i gynnal ymchwil gydweithredol ar fyd gwyliau, ac i ystyried cwestiynau brys ar ddyfodol gwyliau.

Ysgrifenna Jacqui:

Mae gwyliau'n chwarae rhan sylweddol yn niwylliant Prydain. Cyn COVID-19, roedd y farchnad gwyliau cerddoriaeth a chyngherddau yn y DU werth tua £2.6 biliwn gyda thros chwarter o oedolion y DU yn mynd i o leiaf un ŵyl gerddorol y flwyddyn. Yn ogystal â'u pwysigrwydd economaidd, mae gwyliau'n cyfrannu'n gymdeithasol a diwylliannol trwy greu ymdeimlad o berthyn a phrofiadau cofiadwy, gan yrru creadigrwydd a sicrhau buddion ehangach i gymunedau.

Sefydlwyd y Grŵp Ymchwil yn 2016, gan ddod ag academyddion o bob rhan o’r brifysgol a oedd â diddordeb angerddol mewn gwyliau a mynychwyr gwyliau ynghyd. Roedd Caerdydd Creadigol yn un o aelodau sefydlu'r Grŵp Ymchwil Gwyliau.

Sara Pepper a’i thîm oedd yr elfen gemegol a’n bondiodd at ei gilydd ac a helpasom ni i ddod o hyd i ffocws ymchwil cyffredin

Gyda Caerdydd Creadigol, gwnaethom fwynhau ein cydweithrediad cyntaf â Jon Rostron a gŵyl gyfoes drefol flynyddol Sŵn yn 2016. Gyda chefnogaeth cyllid gan yr AHRC, buom yn archwilio effaith Gŵyl Sŵn ar y cynulleidfaoedd, y ddinas a'i sin gerddoriaeth. Fe wnaethon ni hefyd sefydlu amgueddfa gerddoriaeth dros dro gyntaf Caerdydd.

Hyd yn oed cyn effaith y pandemig COVID-19, roedd angen brys i’r sector gwyliau ddatblygu atebion cynaliadwy a gwydn arloesol i warchod gwerth cymdeithasol a diwylliannol y digwyddiadau hyn. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Caerdydd Creadigol wedi hwyluso cydweithrediadau â gwyliau, hyrwyddwyr a llunwyr polisi eraill yn Ninas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Mae'r Grŵp Ymchwil Gwyliau wedi gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Gelli, gan ddarparu mewnwelediadau newydd i brofiadau ac agweddau'r gynulleidfa tuag at ddigwyddiadau cynaliadwy.

Mae'n beth hyfryd cael bod o gwmpas unigolion a sefydliadau eraill sy'n rhannu angerdd cyffredin am fod eisiau gwneud cyfraniadau cadarnhaol at lwyfannu gwyliau cynaliadwy. Mae cydweithredu â Caerdydd Creadigol wedi creu cyfleoedd unigryw inni gyfathrebu a chynyddu effaith ein hymchwil i'r eithaf, helpu gwyliau, a llunio agenda ymchwil y dyfodol ar y rhan bwysig hon o'r economi greadigol.

Sŵn Music Museum - festival wristbands

< Previous article
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event