Tafwyl 2022: Penwythnos prysur o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig

Cynhaliwyd Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ar 18 a 19 Mehefin, yn arddangos cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg i Gaerdydd a thu hwnt. Darllenwch ein crynodeb o Tafwyl a dysgwch am ddigwyddiadau cerddorol sydd i ddod yn y ddinas.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 June 2022

Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol yng Nghastell Caerdydd, sy’n cynnwys amrywiaeth o berfformiadau cerddorol, trafodaethau, digwyddiadau, marchnadoedd a bwyd. Roedd prif artistiaid yr ŵyl eleni yn cynnwys Gwilym, Swnami, Adwaith ac Yws Gwynedd, yn ogystal ag amrywiaeth o artistiaid eraill yn perfformio drwy gydol y penwythnos a’r Wythnos Ffrinj.

Edrychwch ar luniau o Tafwyl 2022

Tafwyl image of crowd

View of castle and crowd

Tafwyl performace

Tafwyl artist

Tafwyl artist 2

Tafwyl comedy gig

Yn ogystal â Tafwyl, penwythnos yma fe hefyd cynhaliwyd gig deuddydd yn gyda’r artistiaid o Gymru Stereophonics, Tom Jones a Feeder, gyda chefnogaeth Buzzard Buzzard Buzzard a Gruff Rhys o Gaerdydd.

Digwyddiadau cerddoriaeth sydd i ddod yng Nghaerdydd

Ar ôl penwythnos mor brysur a chyffrous o gerddoriaeth yn y ddinas, gadewch i ni edrych ar y digwyddiadau sydd i ddod.

Mae Minty's Gig Guide yn ganllaw rhyngweithiol digidol i helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ffans cerddoriaeth leol am y gigs sy'n cael ei gynnal a ble maen nhw'n digwydd. Darllenwch fwy am Minty's Gig Guide.

Mae Radar Mag wedi dechrau coladu rhestrau wythnosol o ddigwyddiadau cerddorol a gynhelir mewn lleoliadau ar draws y ddinas. Gallwch weld y rhestr ddiweddaraf ar eu Instagram @radarmagcardiff.

Mae Gŵyl Sŵn, sef penwythnos blynyddol o gerddoriaeth fyw a gynhelir ym mis Hydref 2022, hefyd wedi cyhoeddi ton gyntaf ei rhaglen yn ddiweddar. Cymerwch olwg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event