Theatr y Sherman yn dathlu pen-blwydd yn 50 oed

50 blwyddyn ers i Theatr y Sherman agor ei ddrysau, mae’r theatr wedi cyhoeddi rhaglen o fentrau yn cymryd lle yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr agoriad swyddogol ym mis Tachwedd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 13 October 2023

Llun o Housemates

Yn ystod 2023 hyd yn hyn, mae Theatr y Sherman wedi dathlu ei penblwydd yn 50 gyda rhaglen helaeth o berfformiadau a digwyddiadau gan gynnwys Romeo and Julie gan Gary Owen, cyd-gynhyrchiad gyda National Theatre; y dangosiad rhyngwladol o Imrie gan Nia Morais a welodd Elan Davies yn enillydd Cymraeg cyntaf erioed y Stage Debut Award ar gyfer ei pherfformiad yn y cyd-gynyrchyiad gyda Frân Wen, a’r cynhyrchiad cymunedol Love, Cardiff: 50 Years of Your Stories.

Daw’r flwyddyn i ben gyda chyfres o ddigwyddiadau a mentrau dathlu ar gyfer cynulleidfaoedd eang:

50 am 50

I ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed a’i hymrwymiad i hygyrchedd, mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi 50 am 50 sy’n rhoi’r cyfle i 50 o deuluoedd sydd erioed wedi mynychu’r Sherman o’r blaen i ddod i weld ei sioeau Nadolig yn rhad ac am ddim. Bydd pob teulu yn derbyn hyd at 5 tocyn ar gyfer perfformiad o naill ai Peter Pan, ar gyfer oed 7+, a Hansel a Gretel, ar gyfer plant 3-6 oed, rhwng 2 a 6 Ionawr 2024. Gall teuluoedd wneud cais i archebu tocynnau drwy ffonio Swyddfa Docynnau’r Sherman ar 029 2064 6900.

Darllenwch ragor.

Gŵyl Teulu 3 o Dachwedd

Yn y gwyliau hanner tymor mae Theatr y Sherman yn cynnal diwrnod o hwyl mewn gŵyl â digwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau am ddim i bawb rhwng 3  - 16 oed. Bydd y diwrnod yn cynnwys perfformiadau byrion, colur, clowniaid, adrodd straeon a gweithdai cynllunio, gweithgareddau hwyliog  a chystadleuaeth cynllunio gwisg.

Darllenwch ragor.

Y Shermantiques Roadshow

Mae tîm staff y Sherman yn cynnig cynulleidfaoedd y cyfle i rannu eu straeon ac i ddod a dangos unrhyw luniau, memorabilia, rhaglenni neu daflenni sydd ganddyn nhw. Mae’r digwyddiad galw heibio yma yn anffurfiol ac yn cymryd lle ar 18 Tachwedd rhwng 11yb a 2yp. Darperir lluniaeth am ddim.

Darllenwch ragor.

Sioeau Nadolig

Hansel a Gretel

The Sherman will also be hosting two festive shows this year:

Hansel and Gretel (oed 3 - 6), darllen mwy.

Hansel a Gretel (oed 3 - 6, perfformiad iaith Gymraeg), darllen mwy

Peter Pan (7+), darllen mwy.

Peter Pan

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event