Treftadaeth CAER

Partneriaeth newydd rhwng Treftadaeth CAER a Caerdydd Creadigol

Bydd Caerdydd Creadigol a Treftadaeth CAER yn ffurfio partneriaeth drwy gydol 2021 i godi ymwybyddiaeth o waith ei gilydd a chysylltu mwy o bobl greadigol gyda'r ddau brosiect.

CAER hillfort and houses around

Sefydlwyd Treftadaeth CAER yn 2011 ac mae'n brosiect ar y cyd rhwng Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Prifysgol Caerdydd, ysgolion lleol, preswylwyr, grwpiau cymunedol a llawer o bobl eraill. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ymchwil i un o'r safleoedd treftadaeth mwyaf trawiadol yng Nghymru, nad yw'n cael ei werthfawrogi digon -  Bryngaer Caerau.

Mae Caerdydd Creadigol am barhau â'u gwaith o gysylltu a rhoi llais i amrywiaeth eang o leisiau creadigol o wahanol gymunedau yng Nghaerdydd.

Mae Treftadaeth CAER wedi datblygu perthynas gref rhwng Trelái a Chaerau a'r Brifysgol. Rydyn ni'n gweld bod y ddau brosiect yn cyd-fynd o ran llawer o'u hegwyddorion a'u gwerthoedd craidd, yn cynnwys cyfuno arbenigedd o'r gymuned a'r brifysgol i weithio i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ac ymarferol. Yn y ddau brosiect hefyd ceir gweithgaredd creadigol fel ffordd i ddod â phobl at ei gilydd. Rydyn ni wedi cydnabod y potensial i gryfhau a phroffilio gwaith y ddau brosiect drwy weithio â ffocws gyda'n gilydd dros flwyddyn gyfan.

Dywedodd Vicki Sutton, rheolwr prosiect Caerdydd Creadigol: "Mae gwaith Dave a'r tîm yn CAER wedi'n hysbrydoli'n fawr ac rydyn ni wir yn edrych ymlaen at sbarduno cysylltiadau newydd yng nghymuned Caerau a Threlái. Mae cynlluniau creadigol cyffrous ar waith i gyd-fynd â lansio canolfan gymunedol newydd treftadaeth CAER ac ryn ni'n methu aros i ddechrau arni".

Dywedodd Dr David Wyatt:

Mae Treftadaeth CAER bob amser wedi mynd ati i ddangos y talentau rhyfeddol sydd yng nghymunedau bywiog Caerau a Threlái - sydd wedi'u hysbrydoli gan 6,000 o flynyddoedd o dreftadaeth. Rydyn ni'n llawn cyffro wrth feddwl am gydweithio gyda thîm gwych Caerdydd Creadigol yn 2021. Gyda'n gilydd byddwn yn creu gwybodaeth newydd am y gorffennol, yn ysbrydoli creadigrwydd yn y presennol a hefyd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol.

 

People stood under a blue canopy with CAER heritage banners

Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook, Instagram a LinkedIn) ac mewn erthyglau a blogiau ar y dudalen hon, ond os hoffech wybod rhagor neu gymryd rhan mae croeso i chi gysylltu.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event